Ar drothwy Gemau Olympaidd Paris 2024, mae'r newyddiadurwraig a chyn-bencampwr Jiwdo Cymru, Maxine Hughes, yn ymchwilio i'r ddadl a ddylai menywod traws gystadlu yng nghategori'r merched. Mae'n cyfweld â phobl ar y ddwy ochr gan gynnwys y bencampwraig nofio Olympaidd Sharron Davies, arwres chwaraeon Cymru, Non Evans, a nofwraig traws Americanaidd, Meghan Cortez-Fields, ac mae hefyd yn holi gwyddonydd blaenllaw a chynrychiolydd o'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol.