Chwe stori drosedd fawr a newidiodd Gymru. Fesul pennod, bydd Sian yn ein harwain drwy ddigwyddiadau syfrdanol stori drosedd, gan ymweld â lleoliadau sylweddol a chwrdd â'r rhai y mae eu bywydau wedi'u heffeithio'n uniongyrchol - o ddioddefwyr i ffrindiau a theulu, a'r gymuned ehangach. Bydd Sian yn clywed eu hanes o'r drosedd a'i heffaith barhaol.
Cyfres deithio newydd lle bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia er mwyn darganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865. Bydd Gwilym yn cwrdd â nifer o bobl leol ar hyd a lled y Wladfa wrth iddo ddysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant. Yn y rhaglen hon, mae taith Gwilym yn cychwyn ym Mhorth Madryn, man glanio'r Mimosa yn 1865.
Mae Sain Ffagan yn datgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r planhigion maen nhw wedi'u tyfu i liwio gwlân. Cawn gip olwg tu fewn i un o adeiladau prysuraf yr Amgueddfa, y siop losin ac mae'r gwaith adeiladu ar du allan Gwesty'r Vulcan yn dod i ben.
Dyma gychwyn i ail gyfres Y Sîn gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwyr y Flwyddyn yr Eisteddfod, yn bwrw golwg dros y sin creadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma byddwn yn dysgu am baentio arwyddion gyda llaw, yn clywed am sin gomedi'r Cymoedd, bwrw golwg ar brosiectau celf berfformiadol ac yn ymweld ag ynys hudol Enlli.
Mae nifer yr asesiadau ADHD yng Nghymru a'r DU wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ymhlith menywod. Mae Jess Davies yn ymchwilio, gyda'r nod o ddarganfod pam na chafodd cymaint o fenywod ddiagnosis fel plant, ac yn gofyn y cwestiwn: beth mae'n ei olygu i gael diagnosis o ADHD'
Yn y bedwaredd bennod byddwn yn dilyn y diddanwr Dilwyn Morgan a'r actor John Pierce Jones wrth iddynt gael y fraint o fod yn rhan o ¿yl flynyddol cenedl y Tuscaroriaid, un o genhedloedd brodorol America. Maent yn dathlu eu diwylliant gyda cherddoriaeth, dawns a gêm o Bêl-dân, gêm eithaf tebyg i rygbi heb y rheolau... ond bod y pyst a'r bêl ar dân! Ac o'r diwedd, mae'r ddau yn ôl yn eu helfen ac ar drafnidiaeth cartrefol wrth iddynt logi cwch hwylio i fynd i Ynys Kelly ar Lyn Erie. Yn annisgwyl