Datganiad pwerus o'r ddeuawd Doed a Ddel gan Sioned Terry ac Elgan Llŷr Thomas
Merin Lleu Caradog gyda datganiad ar y trombôn ar lwyfan y Noson Lawen.
Côr Canwy - cantorion ifanc brwdfrydig o Ddyffryn Conwy a'r ardaloedd cyfagos yn perfformio Gerfydd Fy Nwylo Gwyn gyda'u harweinydd Trystan Lewis a'u cyfeilyddes Siân Louise Bratch ar Noson Lawen.
Elgan Llŷr Thomas yn perfformio'r aria serch boblogaidd Dein Ist Mein Ganzes Herz ar Noson Lawen.
Cari Lovelock gydag Elain Rhys yn cyfeilio ar y delyn yn canu gosodiad Nia Wyn Efans o'r gerdd Dyna Ryfedd (Tudur Dylan Jones) ar yr alaw Betsan (Mona Meirion).
Cadi Gwen yn perfformio Nos Da Nostalgia ar Noson Lawen - yr alaw o'i gwaith ei hun a'r geiriau o waith ei thad, Llion Jones. Os gwrandewch chi'n astud mae'r gân yn adleisio teitlau tair ar hugain o ganeuon Cymraeg poblogaidd.
Alys Williams a'r Band yn perfformio Coelio Mewn Breuddwydion, cân o waith Osian Williams, ar Noson Lawen.
Perfformiad Sioned Terry o Aria Lady Maelor allan o'r opera Gymraeg gyntaf erioed - Hywel a Blodwen gan Joseph Parry.
Llond bol o chwerthin wrth i Elin Fflur ymuno gyda'r digrifwyr Bach a Mawr yn y Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Digon o hwyl gyda'r Tri Trwmpedwr gyda'u medli o ganeuon poblogaidd Tony ac Aloma.
Ymuna'r holl artistiaid i gloi'r Noson Lawen yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 ym Modedern mewn perfformiad gwefreiddiol o'r gân anthemig 'Dwylo Dros y Môr'.
Datganiad TRIO o'r gân deimladwy 'Angor' gan y cyfansoddwr o Fôn, Tudur Huws Jones.
Edern, y triawd o ardal Bodedern yn perfformio 'gartref' mewn Noson Lawen yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Perfformiad Côr Glanaethwy o 'Harbwr Diogel' gan y cyfansoddwr toreithiog Arfon Wyn o Fôn yn y Noson Lawen yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Côr Glanaethwy dan arweiniad Cefin Roberts yn gwerfreiddio'r pafiliwn llawn mewn Noson Lawen yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 gyda'r fferfryn 'O Gymru' gan y diweddar Rhys Jones.
Perfformiad Elin Fflur o 'Cloddiau Cudd' mewn Noson Lawen yn ôl yn ei chynefin ar lwyfan Prifwyl Môn 2017.
Perfformiad o 'Paid Anghofio' gan TRIO ar lwyfan y Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Perfformiad egnïol o 'Bugler's Holiday' gan y trwmpedwyr Gwyn Owen, Cai Isfryn a Gwyn Evans ar lwyfan y Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Ymuna Elin Fflur â Chôr Glanaethwy mewn perfformiad pwerus o'r gân 'Angel' ar lwyfan y Noson Lawen ym Mhrifwyl ym Modedern 2017.
Wil Tân a Ceri'n talu teyrnged i'r ddeuawd boblogaidd o Fôn, Tony ac Aloma, gyda'r gân 'Anghofio' ar lwyfan Prifwyl Môn 2017.
Wil Tân a Ceri'n canu am Fodafon, un o'r nifer o lecynnau tlws ar Ynys Môn sydd nepell o faes Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Cynghanedd pedwar llais ym mherfformiad Pedwarawd Aelwyd Llangwm o 'Adre Nôl' gan Robat Arwyn.
Meinir Gwilym yn cofio am ymweliad hudolus â chaer Tre'r Ceiri ar un o gopaon Yr Eifl.
Perfformiad pwerus gan Arfon Williams o'r gân 'Geiriau Gwag' allan o sioe Cwmni Theatr Meirion 'Er Mwyn Yfory'.
Meinir Gwilym yn perfformio un o'i chaneuon ar Noson Lawen – 'Mor Rhad i'w Cael.
Billy Thompson a'i Fand Sipsi yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol fywiog a rythmig o Rwmania ar Noson Lawen.
Côr Meibion Llangwm dan arweiniad Bethan Smallwood yn perfformio 'Tyrd Aros am Funud' ar Noson Lawen
Côr Aelwyd Llangwm gyda pherfformiad ysbrydoledig o'Galwad y Gân' ar Noson Lawen a recordiwyd yn Y Bala.
Camwn i fyd y sioe gerdd South Pacific (Rodgers a Hammerstein) ym mherfformiad Trebor Lloyd Evans o 'Ar ryw noswaith hyfryd'.