Perfformiad arbennig gan Al Lewis a Kizzy Crawford o'u deuawd hyfryd Dianc O'r Diafol ar Noson Lawen.
Kizzy Crawford mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r Cymoedd yn perfformio'i chân Adlewyrchu Arnaf i - gyda'r geiriau'n annog yr unigolyn i gredu ynddo'i hun.
Ymuna Geraint Cynan gyda Cleif Harpwood i ganu'r gân fytholwyrdd Mistar Duw mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r Cymoedd.
Digon o hwyl gyda Chôr y Gleision ar Noson Lawen mewn perfformiad egniol o Hen Ferchetan
Ragsy, y canwr talentog o Aberdar yn ddiddanu cynulleidfa Noson Lawen o'r Cymoedd gyda'i gân hyfryd, Fy Hafan I.
Perfformiad arbennig gan Gareth Pearson, dewin y gitâr ar Noson Lawen o'r Cymoedd.
Rachel Stephens, y gantores o Dreherbert, gyda chymorth Ensemble Aelwyd Cwm Rhondda mewn perfformiad grymus o 'Yn Rhydd' mewn Noson Lawen gyda chyd-artistiaid o'r Cymoedd.
Côr Meibion Treorci, sydd wedi mynd â hwyl a chroeso'r Cymoedd ledled y byd, ar lwyfan y Noson Lawen yn perfformio un o'r caneuon y mae pob cynulleidfa yn ei mwynhau - Myfanwy (Joseph Parry).
Cynulleidfa Noson Lawen o'r Cymoedd yn mwynhau llais melfedaidd Huw Euron a'i berfformiad o Anthem.
Gracie Richards yn perfformio'i chyfansoddiad Awr Cyn y Wawr yn ei hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen.
Aelodau Côr Ysgol Gymraeg Evan James yn cyflwyno Cân Yr Ysgol o waith Sian Elin Jones ar Noson Lawen - gyda'r plant yn ymfalchio yn eu hysgol, eu gwaith, eu hiaith a chwmni ffrindiau da.
Lisa Victoria â pherfformiad sensitif o'r gân hudolus Y Caeau Aur ar Noson Lawen o Bentre'r Eglwys ger Pontypridd.
Jamie Bevan yn cyflwyno cân llawn hwyl Dim Lentils Mewl Cawl ar lwyfan Noson Lawen gyda pherfformwyr o'r Cymoedd.
Daw dau o wynebau cyfarwydd yr opera sebon Pobol y Cwm at ei gilydd i ganu deuawd am y tro cyntaf ar Noson Lawen, Huw Euron a Lisa Victoria - Ti Yw Y Rheswm.
Jamie Bevan yn cyflwyno hanes un o gymeriadau lliwgar Merthyr 'Johnny Bach Pentips' i gynulleidfa Noson Lawen.
Cyfaredd cerddorol gyda Tom Hutchinson, prif chwaraewr corned Band Pres y Cory a'i berfformiad o CARNIVAL OF VENICE ar Noson Lawen.
Côr Aelwyd Cwm Rhondda dan arweiniad Rachel Stephens yn canu Ffydd, Gobaith, Cariad (Robat Arwyn) mewn Noson Lawen gyda chyd artistiaid o'r Cymoedd.
Lowri Evans a Lee Mason yn perfformio Yr Un Hen Gi ar Noson Lawen.
Rhamant Yr Eidal ar lwyfan y Noson Lawen ym mherfformiad y telynor Llywelyn Ifan Jones o 'Rimembranza di Napoli'.
Athena a Chôr Ysgol Gerdd Ceredigion yn codi'r to gyda pherfformiad o 'Dringwch Pob Mynydd' ar Noson Lawen.
Cyffro ym mherfformiad y grŵp Calan ar Noson Lawen mewn perfformiad o Chwedl y Ddwy Ddraig.
Ymuna'r triawd lleisiol Athena a'r telynor Llywelyn Ifan Jones i berfformio'r hwiangerdd hyfryd 'Mil Harddach Wyt' ar Noson Lawen.
Côr Ysgol Gerdd Ceredigion yn perfformio un o ganeuon bytholwyrdd y diweddar Ryan Davies, Y Pethau Bach, ar Noson Lawen.
Lowri Evans a Lee Mason yn diddanu cynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad o Dwi Di Blino.
Dychwela Sam Ebenezer i Geredigion i ddiddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda pherfformiad o Rhywun Yn Gefn I Ti.
Curo traed wrth i gynulleidfa'r Noson Lawen fwynhau perfformiad egnïol y grŵp Calan o Ryan Jigs.
Digon o hwyl gyda Phil Gas a'r Band yn eu hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen a'u perfformiad o Seidr ar y Sul.
Stori ramant ar lwyfan y Noson Lawen gyda pherfformiad Rhys Meirion o'r gân serch hyfryd Musica Proibita.
Daw Cymru a Phatagonia ynghyd mewn cân ar y Noson Lawen ym mherfformiad Rhys Meirion ac Alejandro Jones o Calon Lan ar yr alaw Deio Bach.
Alejandro Jones o Drefelin ym Mhatagonia yn perfformio Cofio dy Wyneb (Emyr Huws Jones) mewn Noson Lawen yn Llanbed tra ar ei ymweliad â Chymru.