Côr Merched Ger y Lli gyda'u harweinydd Gregory Vearey-Roberts yn diddori cynulleidfa'r Noson Lawen gyda pherfformiad o eiriau sy'n sôn am nerth y gân yn ein cynnal ar adegau anodd bywyd.
Digon o hwyl ar y Noson Lawen ym mherfformiad bywiog Ensemble Ysgol Bro Teifi o drefniant o'r gân werin Deryn y Bwn.
Mari Mathias ar lwyfan y Noson Lawen yn Llanbed yn perfformio un o'i chyfansoddiadau ei hun - Ysbryd y Tŷ.
Llond lwyfan o aelodau Côr Aelwyd ac Adran Yr Urdd Llanbedr Pont Steffan yn mwynhau diddori'r gynulleidfa mewn Noson Lawen yn Llanbed gyda'u perfformiad o Dangos y Ffordd (Robat Arwyn).
Bwncath ar lwyfan y Noson Lawen yn perfformio Curiad y Dydd gan Elidyr Llywelyn Glyn - sef y gân fuddugol yng nghystadleuaeth gyntaf Tlws Coffa Alun Sbardun Huws a gyflwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.
Meinir Gwilym a Ryland Teifi yn canu deuawd am y tro cyntaf erioed ar Noson Lawen a recordiwyd yn Llanbed - Enaid Hoff Cytun.
Digon o hwyl a chwerthin yng nghwmni Bois y Rhedyn o ardal Tregaron ar lwyfan Noson Lawen yn eu perfformiad o Dallt y Gêm
Lleisiau ifanc disgybledig Côr Dwynant yn mwynhau perfformio Cân T Llew (J Eirian Jones) mewn Noson Lawen yn Llanbed.
Meinir Gwilym yn perfformio Cân i Ti ar Noson Lawen - cân dyner i blentyn yn mynegi'r dyhead am i bob plentyn gael yr un cyfle a'r rhyddid i ddatblygu a bod yn nhw'u hunain.
Perfformiad cyhyrog gan Bwncath ar Noson Lawen o'r gân Barti Ddu - yn dwyn i gof y môr leidr enwog o Gasnewydd-Bach.
Dychwela Ryland Teifi i'w gynefin yng Ngheredigion ac i lwyfan y Noson Lawen i ganu cân yn dwyn y teitl addas Nôl.
Un o sêr ifanc Ceredigion, Alwena Mair Owen yn ei hymddangosiad cyntaf ar Noson Lawen yn perfformio'r gân Cwm Alltcafan (J Eirian Jones).
Côr Canwy yn rhoi gwledd i gynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad angerddol o'r gân 'Cymru'.
Tara Bethan yn perfformio 'Y Gwylwyr' - un o ganeuon y grŵp Brân o'r 1970au.
John Ieuan Jones ar lwyfan Noson Lawen â pherfformiad pwerus o 'Sêr' allan o'r sioe gerdd Les Misérables.
Hogie'r Berfeddwlad â'u perfformiad cellweirus o'r gân draddodiadol 'Mari'.
Digon o hwyl a direidi gyda threfniant Ensemble FfI Ysbyty Ifan o gân gan y canwr gyfansoddwr Gildas - 'Y Gŵr o Gwm Penmachno'.
Aiff John Ieuan Jones â chynulleidfa Noson Lawen ar daith gerddorol at lannau'r Missouri gyda'i ddatganiad o 'Shenandoah'.
Ymuna Tara Bethan a Chôr Bro Cernyw i ganu cân wladgarol o waith Gwyneth Vaughan yn dwyn y teitl 'Molawd Cymru' ar Noson Lawen.
Côr Bro Cernyw gyda'u harweinyddes Alaw Llwyd Owen yn perfformio 'Ysbryd y Nos', un o glasuron y grŵp Edward H Dafis.
Datganiad teimladwy o'r gân 'Y Weddi' ar Noson Lawen gan y ddeuawd Sara Davies a Ryan Davies.
Perfformiad egnïol o 'Tchavolo Swing' gan Billy Thompson a'i Fand Sipsi ar Noson Lawen.
Perfformiad egnïol CoRwst o drefniant Geraint Cynan o gân boblogaidd y grŵp Y Cyrff - 'Cymru, Lloegr a Llanrwst'.
Tecwyn Ifan ar lwyfan Noson Lawen yn perfformio un o'i ganeuon poblogaidd 'Paid Rhoi Fyny'.
Tecwyn Ifan yn canu cân o'i eiddo, 'Dy Garu Di Sydd Raid' ar Noson Lawen - cân wedi ei seilio ar benillion telyn yn adrodd hanes dau gariad.
Steffan Prys Roberts â pherfformiad teimladwy o'r gân hudolus 'Llanrwst', cerddoriaeth Gareth Glyn a geiriau T Glynne Davies.
Cyfaredd lleisiol ac offerynnol gan aelodau Tant gyda'u hymddangosiad cyntaf ar Noson Lawen.
Omaloma'n difyrru'r gynulleidfa mewn Noson Lawen gydag artistiaid o Ddyffryn Conwy.
Catrin Angharad ac Esyllt Tudur gyda'r telynor Dylan Cernyw yn profi pa mor hyblyg yw'r hen grefft o ganu cerdd dant gyda'u perfformiad o gerdd ddoniol ar Noson Lawen.
Côr Canwy yn rhoi gwledd i gynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad angerddol o'r gân 'Cymru'.