Calan sy'n perfformio eu trefniant nhw o 'Nos galan' i gynulleidfa hwyliog Noson Lawen Nadolig y Cymoedd.
Delwyn Siôn sy'n perfformio'i glasur, 'Un Seren' gyda chymorth Côr Bro Taf mewn Noson Lawen Nadoligaidd arbennig o'r Cymoedd.
Y grŵp gwerin poblogaidd, Calan sy'n perfformio 'Calennig' mewn pennod Nadoligaidd o'r Noson Lawen.
Angharad Rhiannon, y gantores o Aberdâr sy'n perfformio ei chân Nadoligaidd wreiddiol, 'Mae Santa ar ei ffordd' ar lwyfan y Noson Lawen.
Gyda chymorth Patrick Rimes a band y Noson Lawen, Delwyn Siôn sy'n perfformio alaw hudolus Gustav Holst a chyfieithiad Simon B. Jones o 'Ganol gaeaf noethlwm' mewn pennod Nadoligaidd arbennig.
Bethan McLean sy'n perfformio trefniant hyfryd o 'Gŵyl y Baban' i ddathlu'r Nadolig ar Noson Lawen.
Côr Bro Taf sy'n perfformio un o garolau hyfryd Robat Arwyn, 'Cysga'n dawel' ar Noson Lawen Nadolig y Cymoedd.
Rhydian Jenkins, y tenor o Faesteg sy'n perfformio un o ffefrynnau cyfnod y Nadolig, 'O ddwyfol nos' ar Noson Lawen Nadolig y Cymoedd.
Only Men Aloud sy'n perfformio trefniant lleisiol Geraint Cynan o 'Alaw Mair' - gwaith Cefin Roberts a Delwyn Siôn ar lwyfan Noson Lawen Nadolig y Cymoedd.
John Ieuan Jones, Steffan Prys Roberts, Celyn Cartwright, Jodi Bird ac Elain Llwyd sy'n perfformio 'Wedi dwlu' allan o'r sioe gerdd 'Hwn yw fy mrawd'.
Luke McCall, un o sêr y West End sy'n perfformio 'Dy garu o bell' allan o'r sioe 'Er mwyn yfory' ar lwyfan Noson Lawen y Sioeau Cerdd.
Perfformiad o rai o ganeuon mwyaf poblogaidd Theatr Maldwyn sef 'Ar Noson fel hon', 'Rwy'n dy weld yn sefyll' ac 'Eryr Pengwern' sy'n cloi Noson Lawen y Sioeau Cerdd.
Steffan Hughes a Steffan Harri, cyflwynwyr Noson Lawen y Sioeau Cerdd sy'n perfformio 'Croeso i'r sioe' - cân gafodd ei hysgrifennu'n arbennig gan Catrin Angharad ar gyfer y rhaglen.
Steffan Hughes sy'n perfformio 'Hon yw'r foment' ar lwyfan Noson Lawen y Sioeau Cerdd - cân gafodd ei hysgrifennu gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn ar gyfer y sioe 'Popdy'.
John Ieuan Jones, Jodi Bird, Elain Llwyd ac Ensemble Glanaethwy sy'n perfformio trefniant gan John Quirk o fedli o ganeuon allan o'r sioe gerdd 'Teilwng yw'r oen'.
Al Lewis a Celyn Cartwright sy'n perfformio medli o ddwy o ganeuon y sioe gerdd 'Te yn y grug' - sioe sy'n seiliedig ar y llyfr o'r un enw gan Kate Roberts.
Joey Cornish a Lily Beau sy'n perfformio 'Gyda'n gilydd' - cân allan o'r sioe gerdd newydd, 'Anthem' ar lwyfan Noson Lawen y Sioeau Cerdd.
Perfformiad Steffan Harri o 'Melltith ar y nyth' - cân allan o'r sioe gerdd o'r un enw gafodd ei hysgrifennu gan Endaf Emlyn a Hywel Gwynfryn nôl ym 1974.
Ensemble o ysgol berfformio Glanaethwy sy'n perfformio 'Dal fi' - gwaith Einion Dafydd a Cefin Roberts o'r sioe 'Breuddwyd roc a rôl'.
Gwi Jones, y canwr o Aberystwyth sy'n perfformio 'Os neith yfory' ar lwyfan Noson Lawen Ceredigion.
Èlin Fflur sy'n ymuno efo'r Moniars ac ensemble Côr Hŷn Ieuenctid Môn i berfformio 'Harbwr diogel', un o ganeuon mwyaf poblogaidd Arfon Wyn mewn noson arbennig i ddathlu ei benblwydd yn 70 oed.
Arfon Wyn sy'n perfformio'r glasur 'Cae o ŷd' gyda'r Moniars mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu ei benblwydd yn 70 oed.
Edern sy'n perfformio trefniant hyfryd o 'Paid a cau y drws' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu penblwydd y canwr a'r cyfansoddwr o Fôn, Arfon Wyn.
Ensemble Côr Hŷn Ieuenctid Môn sy'n perfformio 'Credaf' - cân gan un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd yr ynys, Arfon Wyn.
Perfformiad Elin Angharad o 'Y lleuad a'r sêr' - cân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth 'Cân i Gymru' yn 2015.
Dylan Morris sy'n perfformio 'Dyddiau gwell' ar lwyfan y Noson Lawen - cân a gyd-ysgrifennodd gyda neb llai na Arfon Wyn.
Trefniant hyfryd o 'Cariadon Bosnia' gan Arfon Wyn yn cael ei berfformio gan Catrin Angharad ac Irfan Rais mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu penblwydd Arfon yn 70 oed.
Ryland Teifi sy'n diddanu cynulleidfa Noson Lawen Ceredigion gyda'i berfformiad o'i gân hyfryd, 'Stori ni'.
Rhian Lois a'i dehongliad hi o un o ganeuon poblogaidd Emyr Huws Jones, 'Cofio dy wyneb'.
Ryland Teifi sy'n perfformio 'Mae yna le' ar lwyfan y Noson Lawen sef cân fuddugol Rhydian Meilir yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, 2022.