Y band poblogaidd, Bwncath sy'n cloi 'Noson Lawen Glannau'r Fenai' gyda'u trefniant nhw o gân wych Geraint Lovgreen a Meirion MacIntyre Huws, 'Yma wyf innau i fod'.
Y gantores werin, Eve Goodman sy'n perfformio 'Cân y Felinheli' ar lwyfan 'Noson Lawen Glannau'r Fenai'.
Y tad a'r mab o'r Felinheli, Dylan a Neil sy'n canu am dafarn y Gardd Fôn sydd wedi'i lleoli ar lannau'r Fenai.
Y gantores Lily Beau sy'n ymuno gyda'r grŵp Ciwb am y tro cyntaf i ganu eu trefniant nhw o 'Pan ddoi adre'n ôl' ar Noson Lawen.
Catrin Hopkins, y gantores o Gaernarfon sy'n perfformio 'Dal ar dy ieuenctid' ar lwyfan 'Noson Lawen Glannau'r Fenai'.
Yr actor a'r cerddor, Daniel Lloyd sy'n perfformio 'Ofergoelion' mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd Tecwyn Ifan yn 70 oed.
Ac Eraill sy'n ôl gyda'i gilydd i berfformio 'Tua'r Gorllewin' - y gân gyntaf i Tecwyn Ifan ysgrifennu ar eu cyfer - mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu pen-blwydd y cerddor yn 70 oed.
Y grŵp gwerin Pedair sef Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Sian James sy'n perfformio trefniant o 'Cân yr eos' gan Tecwyn Ifan mewn noson arbennig i ddathlu ei ben-blwydd.
Ensemble Ysgol Bro Myrddin sy'n perfformio trefniant o 'Bytholwyrdd' gan Tecwyn Ifan mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd y cerddor yn 70 oed.
Sioned Llewelyn o'r Efailwen sy'n canu fersiwn hyfryd o 'Ysbryd Rebeca' gyda chymorth Euros Rhys ar y piano mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd Tecwyn Ifan yn 70 oed.
Y grŵp gwerin, Pedair sy'n diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'u trefniant nhw o un o ganeuon Tecwyn Ifan, 'Cerdded 'mlaen'.
Casi Wyn sy'n perfformio trefniant hyfryd o 'Gwaed ar yr eira gwyn' gyda chymorth Sian James ar y piano mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu pen-blwydd Tecwyn Ifan yn 70 oed.
Gyda chymorth ei frawd Euros Rhys ar y piano a band y Noson Lawen, Tecwyn Ifan sy'n perfformio'r anthem, 'Y Dref Wen' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
Daniel Lloyd sy'n perfformio trefniant arbennig Wyn Pearson o rai o ganeuon adnabyddus yr Opera Roc boblogaidd, Nia Ben Aur gafodd ei hysgrifennu a'i pherfformio gan rai o enwau mwyaf y byd roc a pop yma yng Nghymru yn y 70au megis Ac Eraill, Edward H. Dafis, Hergest a Sidan.
Y cerddor o Lansannan, Jacob Elwy sy'n perfformio 'Angel' gan Tecwyn Ifan - cân gafodd ei hysbrydoli gan un o areithiau Emyr Llewelyn.
Mared Williams, Steffan Rhys Hughes, Luke McCall, Jade Davies a Siwan Henderson sy'n perfformio medli o rai o ganeuon gorau ein sioeau cerdd Cymraeg.
John's Boys sy'n llenwi llwyfan y Noson Lawen tra'n canu trefniant arbennig iawn o 'Nessun Dorma' gan Giacomo Puccini.
Cynhyrchydd cyntaf y Noson Lawen, Huw Jones sy'n perfformio'i gân enwog, 'Dŵr' mewn pennod arbennig i ddathlu pen-blwydd y rhaglen yn 40 oed.
Dafydd Iwan sy'n perfformio'r anthem, 'Yma o Hyd' gyda geiriau ychydig yn wahanol i'r arfer fel rhan o ddathliad pen-blwydd y Noson Lawen yn 40 oed.
50 Shêds o Lleucu Llwyd sy'n cychwyn y dathliadau wrth i raglen Noson Lawen ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.
Rhys Meirion sy'n canu'r glasur gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn, 'Anfonaf Angel' gyda chymorth ensemble John's Boys.
Dylan Morris sy'n canu un o'i ganeuon poblogaidd, 'Haul ar fryn' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen yn dathlu 40 o flynyddoedd.
Iona ac Andy sy'n perfformio un o'r hen ffefrynnau mewn Noson Lawen arbennig i nodi pen-blwydd y rhaglen yn 40 oed.
Steffan Lloyd Owen, John Ieuan Jones a Ryan Vaughan Davies sy'n perfformio'r glasur 'Safwn yn y bwlch' yn ystod dathliad y Noson Lawen yn 40 oed.