Perfformiad o 'Paid Anghofio' gan TRIO ar lwyfan y Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Perfformiad egnïol o 'Bugler's Holiday' gan y trwmpedwyr Gwyn Owen, Cai Isfryn a Gwyn Evans ar lwyfan y Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Llond bol o chwerthin wrth i Elin Fflur ymuno gyda'r digrifwyr Bach a Mawr yn y Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Perfformiad Mei Emrys ar Noson Lawen o'r gân Dibyn oddi ar ei albym unigol gyntaf yn dwyn y teitl 'Llwch'.
Perfformiad Sioned Terry o Aria Lady Maelor allan o'r opera Gymraeg gyntaf erioed - Hywel a Blodwen gan Joseph Parry.
Alys Williams a'r Band yn perfformio Coelio Mewn Breuddwydion, cân o waith Osian Williams, ar Noson Lawen.
Cadi Gwen yn perfformio Nos Da Nostalgia ar Noson Lawen - yr alaw o'i gwaith ei hun a'r geiriau o waith ei thad, Llion Jones. Os gwrandewch chi'n astud mae'r gân yn adleisio teitlau tair ar hugain o ganeuon Cymraeg poblogaidd.
Cari Lovelock gydag Elain Rhys yn cyfeilio ar y delyn yn canu gosodiad Nia Wyn Efans o'r gerdd Dyna Ryfedd (Tudur Dylan Jones) ar yr alaw Betsan (Mona Meirion).
Elgan Llŷr Thomas yn perfformio'r aria serch boblogaidd Dein Ist Mein Ganzes Herz ar Noson Lawen.
Côr Canwy - cantorion ifanc brwdfrydig o Ddyffryn Conwy a'r ardaloedd cyfagos yn perfformio Gerfydd Fy Nwylo Gwyn gyda'u harweinydd Trystan Lewis a'u cyfeilyddes Siân Louise Bratch ar Noson Lawen.
Merin Lleu Caradog gyda datganiad ar y trombôn ar lwyfan y Noson Lawen.
Datganiad pwerus o'r ddeuawd Doed a Ddel gan Sioned Terry ac Elgan Llŷr Thomas
Rhamant ar lwyfan Noson Lawen wrth i Fflur Wyn a Gary Griffiths berfformio'r ddeuawd Am Fy Mod i Yn Dy Garu gan Lehár.
Lleisiau CBC, myfyrwyr o Brifysgol y Drindod, Dewi Sant yng Nghanolfan Berfformio Cymru yn canu Gorwedd Gyda'i Nerth ar Noson Lawen.
Llond llwyfan o bobl ifanc o nifer o glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn ymuno i ganu Yma I Aros (gan Eric Jones a Tudur Dylan Jones) dan arweiniad Sioned Page gyda Rhian Wyn Williams yn cyfeilio.
Sian Richards yn canu un o'i chaneuon ei hun Tywyllwch Du ar ei hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen.
Ensemble Band Pres Porth Tywyn yn perfformio trefniant o un o weithiau poblogaidd Brahms, Dawns Hwngaraidd Rhif 5.
Datganiad Fflur Wyn ar y rhaglen Noson Lawen o Yr Ynys Bellennig - sef trefniant y cyfansoddwr Eric Jones o gerdd y bardd I D Hooson.
Gruff Sion Rees yn canu un o'i ganeuon gwreiddiol ar Noson Lawen - Dim Ond Geiriau.
Gruff Sion Rees yn canu cân newydd sbon ar Noson Lawen - Saff Bob Awr.
Harmoni clos a lleisiau cyfoethog Ensemble Ysgol Plasmawr gyda medli o ganeuon poblogaidd y band Bandana ar Noson Lawen.
Disgyblion ieuengaf Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn dwyn gwên i wyneb pawb gyda'u perfformiad annwyl a bywiog o'r garol Sêr Y Nos Yn Gwenu.
Deio Llŷr Davies-Hughes yn creu awyrgylch cynnes a Nadoligaidd gyda'i berfformiad ar y corned o fedli o ganeuon tymhorol.
Mali Llyfni yn perfformio'r gân Tywysog Tangnefedd gan Dafydd Iwan sy'n edrych ar wir ystyr y Nadolig.
Lleisiau caboledig Côr Ysgol Theatr Maldwyn yn canu Pan Ddaeth Y Gair Yn Gnawd mewn Noson Lawen Nadoligaidd.
Cywreinder cerddorol wrth i driawd piano y chwiorydd Kwok berfformio Overture Carmen gan Bizet mewn Noson Lawen arbenning gyda thalentau ifanc o Gymru.
Perfformiad arbennig gan ddisgyblion Ysgol Hafod Lon a'u hathro Meilyr Wyn o gân hyfryd o waith Meilyr Wyn yn dwyn y teitl Ffarwel Haf.
Llŷr Ifan Eirug ac Elain Cain, sy'n aelodau o Ysgol Theatr Maldwyn, yn perfformio'r ddeuawd hyfryd Cariad Dan Olau y Sêr mewn Noson Lawen arbennig gyda thalentau ifanc o Gymr.
Diweddglo pwerus i Noson Lawen Nadoligaidd gyda thalentau ifanc o Gymru'n perfformio Er Cof Am Eni'r Iesu.