Ffermio: Treialon Cŵn Defaid: Cyfres newydd sy'n dathlu'r berthynas arbennig rhwng bugeiliaid a'u cŵn.
Pysgod i Bawb: Julian Lewis Jones a Ryland Teifi sy'n ein tywys ni ar daith bysgota ar hyd arfordir Cymru, o Fôr Hafren i Ynys Môn.
Fferm Ffactor Selebs: Bydd llond tractor o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn mentro i fuarth y fferm ar gyfer cyfres newydd sbon o Fferm Ffactor!
Nyrsys: Cyfres newydd sy'n ymweld â rhai o ysbytai prysura' Cymru ac edrych ar yr heriau sy'n wynebu nyrsys yng Nghymru heddiw.
Cymry ar Gynfas: Cyfres newydd lle mae chwe eicon Cymraeg yn cael eu paru gyda chwe artist er mwyn creu chwech o bortreadau unigryw.
Iaith ar Daith: Mae'r awdur ac actor Ruth Jones yn mynd ar daith emosiynol i ddysgu Cymraeg gyda'i mentor a ffrind Gillian Elisa.
Merched yr Awr: Rhaglen gerddorol arbennig sydd yn gymysg o berfformiadau ac elfennau dogfennol, i ddathlu cerddoriaeth a chyfraniadau pedair o ferched mwyaf dylanwadol y byd cerddorol heddiw.
Pobol y Cwm - Ruth Jones: Beth sy'n dod â'r actores a'r awdures adnabyddus Ruth Jones i strydoedd Cwmderi? Dewch i ddarganfod mwy am ei phrofiadau ar yr opera sebon Pobol y Cwm.
Eisteddfod T: Er fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ychydig yn wahanol eleni, bydd dal cyfle i fwynhau y cystadlu.
Ailagor: Maesincla: Y bennod ddiweddaraf yn stori rhyfeddol un cymuned ac un ysgol arbennig iawn yng nghanol Covid 19.
Be' Ti'n Gwylio? : Cwis newydd sbon lle mae chwech tîm cystadleuol mewn chwe cartref gwahanol yng Nghymru yn defnyddio eu gwybodaeth am deledu Cymru i ennill gwobr tecawe o'u dewis.
CIC Stwnsh: Gyda'r tymor pêl-droed newydd wedi dechrau, mae'r gyfres chwaraeon CIC yn dychwelyd i S4C.
Lle Bach Mawr: Cyfres newydd. Ymunwch a'r tri cynllunydd brwd Carwyn Lloyd Jones, Mandy Watkins a Gwyn Eiddior wrth iddynt dderbyn yr her o adnewyddu lle bach i fewn i ddihangfa fawr.
Nyrsys: Cyfres newydd sy'n dilyn gwaith nyrsys cymunedol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru drwy gyfnod pandemig Covid-19.
DRYCH: Bois y Rhondda: Rhaglen ddogfen sydd yn herio rhai o'r ystrydebau sydd fel arfer yn diffinio pobl ifanc un o gymoedd mwyaf eiconig y byd.
Am Dro: Mae'r gystadleuaeth mynd am dro wedi dychwelyd! Pedwar taith gerdded, pedwar cystadleuydd ond dim ond un enillydd fydd yn cipio'r wobr o mil o bunnoedd.
Chwaraeon ar S4C: Gyda gemau pêl-droed rhyngwladol Cynghrair Cenhedloedd UEFA, y ras feics Giro d'Italia, y rali ddiweddaraf ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd, gemau rygbi Guinness PRO14, yn ogystal â gemau pwysig yng nghynghrair bêl-droed y JD Cymru Premier - bydd digonedd o chwaraeon cyffrous i wylwyr S4C fwynhau yr wythnnos yma.
Y Stiwdio Grefftau: Mae naw o grefftwyr mwyaf dawnus Cymru yn derbyn her gan dri o sefydliadau mwyaf pwysig Cymru i greu campwaith crefftio. Cyfres newydd.
Iaith ar Daith: Mae pum seleb yn mynd ar daith i ddysgu Cymraeg. Mae'r gyfres newydd yn dechrau gyda Carol Vorderman a'r cyflwynydd tywydd Owain Wyn Evans sydd yn fentor iaith iddi.
Pobol Y Cwm: Wrth i'r frwydr rhwng Garry Monk a Dylan Ellis dod i ddiweddglo dramatig, edrychwn ar gryfderau a gwendidau dau ddihiryn mwyaf Cwmderi.
Chwe Gwlad 2020: Cyfle i edrych ymlaen at bencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2020 gyda chyflwynydd Clwb Rygbi Gareth Rhys Owen.
Helo Syrjeri: Cyfres sy'n dychwelyd i ddilyn staff a chleifion Canolfan Iechyd ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod misoedd y gaeaf.
PANDEMIG: 1918/2020: Rhaglen arbennig sy'n edrych ar hanes pandemig difrifol arall – sef y Ffliw Sbaeneg a darrodd Cymru a'r byd rhyw ganrif yn ôl. Mae Dr Llinos Roberts yn cyflwyno.
Corau Rhys Meirion: Rhys Meirion sy'n teithio i Sir Benfro i ddarganfod a yw canu mewn côr yn help i ddysgu Cymraeg.
Ysgol Ni: Maesincla: Am flwyddyn gyfan, mae'r camerâu wedi gweld bywyd go iawn mewn ysgol gynradd yng Nghaernarfon, ysgol ble mae trafod emosiynau yr un mor bwysig ag adrodd tablau.
Iaith ar Daith: Mae'r cyflwynydd radio a theledu Adrian Chiles yn mynd ar daith i ddysgu mwy am draddodiadau Cymru – ac i siarad Cymraeg - gyda'i fentor Steffan Powell.
Priodas Pum Mil Dan Glo: Dyw cyfyngiadau Covid-19 ddim yn mynd i roi stop ar briodas cwpl o Ynys Môn wrth iddynt ddathlu eu diwrnod mawr yn eu hystafell fyw. Mae Trystan ac Emma yn ôl i roi help llaw i griw o ffrindiau a theulu'r pâr hapus.
FFIT Cymru 6 Mis Wedyn: Cyfle i ddal i fyny â pum arweinydd FFIT Cymru 2020 - Kevin, Ruth, Elen, Rhiannon ac Iestyn unwaith eto, chwe mis ar ôl iddynt dderbyn yr her i fyw yn fwy iach.
DRYCH: Aros am Aren: Y gwirionedd tu ôl i'r wên - ffilm ddogfen am yr actor a'r digrifwr Iwan John sydd angen aren newydd er mwyn achub ei fywyd.