Un Bore Mercher: Awn yn nôl i Abercorran i ail gydio gyda Faith Howells sy'n ceisio cadw'n bositif fel mam a chyfreithwraig pan fod rhywun o'i gorffennol yn ymddangos ac yn peryglu ei dyfodol.
DRYCH: Dau Ffrind, Un Aren: Pa mor bell fyddech chi'n fodlon mynd i achub bywyd eich ffrind gorau? Stori dau ffrind sydd wedi bod ar daith emosiynol ac anodd.
Miwsig fy Mywyd: Rhaglen am chwech o Gymry sy'n serennu ym myd y sioeau cerdd yn y West End. Mi fydd y chwech yn dod â razzle dazzle byd-enwog y sioeau yn fyw ar y sgrin gyda'u perfformiadau a'u hanesion.
Rybish: Cyfres gomedi newydd. Mae'n un o enwau mawr y sgrin fach, gyda gyrfa sy'n rhedeg dros ddegawdau. Does dim amheuaeth fod Dyfed Thomas, sy'n wreiddiol o ardal Wrecsam, yn un o gewri actio'r genedl, felly pam dewis Rybish fel ei brosiect diweddara?
Galar yn y Cwm: Rhaglen ddogfen sydd yn edrych ar waith cwmni o ymgymerwyr o Gwm Tawe sy'n parhau i weithio'n ddi-flino yn ystod cyfnod Covid-19.
Dau Gi Bach: Wrth i bobl dreulio mwy o amser adre dros y cyfnod clo, bu cynnydd sylweddol yn y nifer o gartrefi oedd yn ysu i ychwanegu ci bach i'w llwyth. Cyfres newydd sy'n dogfennu dyddiau cynnar rhai o'r cŵn hyn yn eu cartrefi newydd.
35 Diwrnod: Parti Plu: Mae grŵp o ffrindiau yn dod at ei gilydd i ddathlu priodas un o'u plith – ond mae cyfrinach dywyll yn taflu cysgod dros y diwrnod mawr. Drama newydd sbon.
Anrhegion Melys Richard Holt: Mae'r cogydd patisserie penigamp Richard Holt yn creu cacennau unigryw ac arallfydol er mwyn dweud diolch a dathlu pobl arbennig. Cyfres newydd.
Heno Nos Galan: Bydd criw Heno yn edrych nôl dros y flwyddyn mewn rhaglen arbennig o Heno Nos Galan ar S4C Nos Galan, gyda gwesteion arbennig, cerddoriaeth a llawer o hwyl.
Tour De France 2020: Mae'r aros am ras feics enwoca'r byd drosodd. Criw Seiclo fydd yn ein tywys drwy'r ras gyfan gyda rhaglenni byw ac uchafbwyntiau o bob cymal.
Pobol y Cwm: Mae'r actores Mali Harries yn edrych ymlaen at bortreadu'r heriau sy'n wynebu ei chymeriad Jaclyn Parri.
Dwylo Dros y Môr 2020: Dwylo Dros y Môr oedd y record elusennol gyntaf yn y Gymraeg. 35 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'r gân wedi'i hail-recordio i helpu pobl sy'n dioddef yn sgil Covid-19. Cyfweliad gyda drymwyr Graham Land a'i fab Siôn sydd wedi recordio ochr yn ochr ar y fersiwn 2020.
Heno Nos Sadwrn: Newyddion da i ffans Heno! Bydd y rhaglen gylchgrawn boblogaidd yn darlledu ar nos Sadwrn o 8 Chwefror ymlaen, yn ogystal â phob nos Llun i Gwener.
Ysgol Ni: Maesincla: Stori hynod Alfie, bachgen dewr 10 oed sy'n brwydro yn erbyn canser y gwaed ond yn mynnu na fydd e fyth yn rhoi'r gorau iddi.
Un Bore Mercher: Wrth inni gyrraedd hanner ffordd trwy'r gyfres olaf o Un Bore Mercher, mae'r actores Eve Myles, sy'n chwarae rhan Faith Howells, yn edrych nôl ar y gyfres boblogaidd hon sydd wedi cael cymaint o effaith ar ei bywyd.
Miwsig fy Mywyd: Mewn cyfres newydd sbon bydd y tenor enwog o Fôn, Gwyn Hughes Jones yn rhannu hanes ei fywyd a'i yrfa gerddorol.
Newid Hinsawdd, Newid Byd: Covid 19: Steffan Griffiths a Daf Wyn sy'n edrych ar effaith y Pandemig ar hinsawdd y byd ac yn gofyn ai dyma ein cyfle euraidd i droi'r cloc yn ôl ar y difrod i'n amgylchedd?
Dathlu Dewrder: Arwyr 2020: Rhaglen arbennig i ddathlu a dweud diolch wrth y mudiadau a'r unigolion sydd wedi bod yn arwyr go iawn trwy gyfnod Covid-19.
DRYCH: Miss Universe: Dogfen sy'n dilyn taith Emma Jenkins o Lanelli i Atlanta wrth iddi geisio cipio coron gornest harddwch fwya'r bydysawd, Miss Universe.
Cân i Gymru: Mae'r amser yna o'r flwyddyn eto lle mae rhai o dalentau mwyaf disglair byd canu pop Cymru yn cystadlu am yr anrhydedd o enill gwobr Cân i Gymru. Elin Fflur a Trystan Ellis Morris sy'n cyflwyno'r noson o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Cymry ar Gynfas: Y cerddor ac archeolegydd Rhys Mwyn yw'r eicon Cymreig sy'n cael ei bortreadu gan yr artist cyfrwng cymysg Luned Rhys Parri.
Miwsig fy Mywyd: Rhaglen sy'n dathlu dros 30 mlynedd o Ysgol Glanaethwy gyda Rhian a Cefin Roberts yng nghwmni Tudur Owen.
DRYCH: Babis Covid, Babis Gobaith: Rhaglen ddogfen emosiynol ac agos atoch am gyplau sydd yn disgwyl babi yn nghyfnod Covid, gyda phopeth wedi ei ffilmio ar ffônau symudol y darpar rieni.
Eisteddfod: Bu'r siom na allai'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Thregaron eleni i'w deimlo trwy Gymru gyfan. Mae S4C yn falch felly o gynnig amserlen gyffrous llawn adloniant amrywiol, o lenyddiaeth i gerddoriaeth byw, i lenwi'r bwlch yn ein bywydau.
Nadolig ar S4C: Ymunwch â ni dros y Nadolig am lond sach o raglenni arbennig ar gyfer y teulu cyfan.