Gwyliau Cartref: Cyfres newydd sy'n dilyn teuluoedd a grwpiau o ffrindiau wrth iddynt fynd ar wyliau yn eu milltir sgwâr.
Mae gwledd o raglenni arbennig ar S4C dros y Nadolig i dwymo calonnau a dathlu hwyl yr ŵyl.
Gareth! :Mae Gareth yr epa epig yn ôl gyda chyfres newydd sbon. Y lejands Lily Beau a Malcolm Allen fydd y gwestai cyntaf, ynghyd â cherddoriaeth gan fand sesiwn newydd Gareth, HMS Morris.
Ffit Cymru 6 Mis Wedyn: Pennod arbennig i weld ble mae pum Arweinydd FFIT Cymru 2021 arni. Ydyn nhw wedi parhau i ddilyn y cynllun a chadw'r pwysau i ffwrdd, 6 mis ers cychwyn ar eu taith trawsnewid a byw bywyd iach?
Cymru, HIV & Aids: Ar Ddiwrnod AIDS y Byd, byddwn yn clywed gan bobl o Gymru sy'n byw gyda HIV a phobl sy'n arwain y frwydr yn erbyn y firws.
Sain Ffagan: Cyfres newydd sbon sy'n cynnig cipolwg ar y llafur cariad sydd ynghlwm â gwarchod yr adeiladau hynafol, gerddi crand, a chasgliadau di-ri yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Curadur: Cyfres newydd sy'n gwahodd pobl flaenllaw o'r sîn gerddoriaeth Gymraeg i ddewis a dethol perfformiadau gan artistiaid sy'n dylanwadu arnynt. Y tro hwn - y cerddor o Fachynlleth Cerys Hafana.
Richard Holt: Yr Academi Felys: Cyfres newydd. Gyda'i fusnes cacennau a siocled yn ffynnu mae Richard Holt - un o brif gogyddion patisserie y DU - yn edrych am brentisiaid dawnus i ennill teitl yr Academi Felys.
Calan Gaeaf Carys Eleri: Mae Calan Gaeaf ar y gorwel ond beth yw arwyddocâd yr ŵyl i ni fel Cymry? Carys Eleri sy'n darganfod a oes mwy o hanes i'r traddodiad na chodi ofn a hel losin.
Gareth Jones: Nofio Adre: Cyfres newydd. Mae'r cyflwynydd teledu Gareth Jones (Gaz Top) yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 gydag ymdrech nofio epig ar draws dyfroedd gwylltaf Cymru.
Eryri: Pobol y Parc: Cyfres newydd. Dewch i gwrdd â'r bobl sy'n byw, gweithio ac ymlacio ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy'n dathlu 70 mlynedd eleni.
Craith: DCI Cadi John a DS Owen Vaughan fydd yn arwain yr archwiliad unwaith eto, a hynny ar ôl i gorff ffermwr lleol gael ei ddarganfod mewn cornel anghysbell o Eryri. Cyfres newydd o'r ddrama ditectif.
Trysorau Gareth Edwards: Rhaglen sy'n dilyn Gareth Edwards a'i wraig Maureen wrth iddyn nhw ddod i afael â'r dasg o hidlo drwy'r holl eitemau hanesyddol, gyda'r nod o greu arddangosfa o 10 eitem arbennig yn Amgueddfa Rygbi Caerdydd, ym Mharc yr Arfau.
DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad: Dri deg mlynedd ar ôl terfysgoedd brawychus ar strydoedd Trelái yng Nghaerdydd, mae Jason Mohammad yn dychwelyd i'r stâd lle gafodd e ei fagu i ddarganfod pam ddigwyddodd y terfysg a sut mae'r cyfnod dal i effeithio ar bobol yr ardal heddiw.
Am Dro! :Cyfres newydd lle mae pedwar cerddwr brwdfrydig yn dangos beth sydd gan eu hardal i'w chynnig yn ystod taith gerdded (a phicnic!) – gyda'r gorau yn ennill £1,000!.
Grav: Ffilm arbennig sy'n adrodd stori Ray Gravell – un o wir arwyr Cymru i nodi'r diwrnod pe byddai Ray wedi troi'n 70 oed.
Cynefin - Cwm Gwendraeth: Yn y rhaglen gyntaf yn y gyfres newydd, bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Siôn Tomos Owen yn ymweld â Chwm Gwendraeth – cornel fach o Sir Gâr sy'n llawn hanes a chymeriadau lliwgar.
Sgorio Rhyngwladol: Y Ffindir v Cymru: Bydd Tîm Pêl-droed Cymru yn teithio i'r Ffindir am gêm gyfeillgar – dyma ddechrau ar fis tyngedfennol wrth i'w hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar gyrraedd man hollbwysig.
Con Passionate: Mae'r ddrama eiconig am hynt a helynt côr meibion a'i harweinyddes yn ôl ar S4C. Cyfweliad gyda Shân Cothi sy'n gobeithio bydd ail-ddarllediad o'r ddrama yn rhoi hwb i ganu corawl yng Nghymru ar ôl y pandemig.
Garddio a Mwy: Y cyflwynydd Sioned Edwards sy'n sôn am pam fod yr ardd odidog mae'n rhannu gyda'i gwr Iwan a'u teulu ifanc wedi dod yn le pwysicach nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf.
Codi Pac: Y tro hwn bydd Geraint Hardy yn ymweld ag ardal Caerdydd i ddarganfod llefydd difyr a diddorol.
Eisteddfod AmGen: Wythnos o raglenni arbennig sydd yn dod â holl gyffro'r Eisteddfod i wylwyr S4C.
Taith Lle-CHI: Rhaglen arbennig lle mae artistiaid talentog yn dathlu ardaloedd llechi Gwynedd trwy gân a cherdd.
CIWB: Caneuon Sain o'r Archif: Golwg ar daith band arbennig iawn wrth iddyn nhw recordio albwm gyda gwesteion gwahanol yn ymuno i ganu'r caneuon.
Wythnos Traethau S4C: Byddwch yn barod i fynd ar drip i lan y môr. Rhwng 12-17 Gorffennaf, bydd S4C yn cynnig gwledd o raglenni difyr yn dathlu traethau gorau Cymru.
Pobol y Cwm: Mae drama yn y Deri – a bydd bywyd byth yr un peth i sawl un o'n hoff gymeriadau. Cyfweliad gydag Elin Harries sy'n chwarae rhan Dani Monk.
Hen Dŷ Newydd: Mewn cyfres newydd, bydd tri dylunydd creadigol Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn defnyddio eu sgiliau i drawsnewid hen dai trwy adnewyddu tair ystafell a chreu naws newydd sbon.
Catrin a'r Cor-ona: Rhaglen arbennig sy'n dilyn llwyddiant ysgubol tudalen Facebook Côr-ona a'r ddynes tu ôl i'r fenter sef Catrin Toffoc.
Y Fets: Mae Ystwyth Vets ar gyrion Aberystwyth yn agor y drysau i'r camerâu unwaith eto mewn cyfres newydd.
Pobl y Môr: Yn arwain at wythnos arbennig yn dathlu traethau Cymru, bydd y gyfres newydd hon yn dilyn y rhai sydd â halen yn eu gwaed mewn sawl ffordd ac mewn sawl ardal glan môr ar draws Cymru.