22 Rhagfyr 2022
Mae gwledd o raglenni arbennig ar S4C a S4C Clic dros y Nadolig i dwymo calonnau a dathlu hwyl yr ŵyl.
Chris a'r Afal Mawr: Mi fydd Chris 'Flamebaster' Roberts a un o'i ffrindiau gorau, y cogydd amryddawn o Ynys Môn, Tomos Parry, yn ymweld a'r llefydd gorau i fwyta yn Efrog Newydd.
FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn: Roedd taith FFIT Cymru yn newid ar fyd i bum arweinydd yn y gyfres yn gynharach eleni – ond a yw'r daith trawsnewid wedi parhau yn y chwe mis ers hynny?
Afal Mawr Epic Chris: Boom! Mae Chris 'Flamebaster' Roberts yn ôl a'r tro hwn, taith fythgofiadwy i Efrog Newydd sydd ar y fwydlen. Cyfres newydd.
Bwrdd i Dri: Cyfres newydd o'r sioe hwyliog sy'n cyfuno coginio, bwyta, sgwrsio a chwerthin.
Gogglebocs Cymru: Cyfle i ddod i adnabod rhai o sêr Gogglebocs Cymru, gan gynnwys Vicki o Ben y Bont ar Ogwr a Huw Williams o'r Wyddgrug.
Richard Holt a'i Academi Felys: Mae drysau hudolus Academi Felys Richard Holt ar agor unwaith er mwyn i feistr y pwdinau rannu ei sgiliau a darganfod pobyddion o fri yn ei Academi Felys 2022.
Radio Fama: O'r llon i'r lleddf - sgyrsiau o galon y gymuned fydd yn ganolog i raglen radio sydd hefyd yn rhaglen deledu newydd. Gyda Tara Bethan a Kris Hughes.
Gogglebocs Cymru: Wrth i Gogglebocs Cymru fwrw'r sgrin am y tro cyntaf ar nos Fercher 2 Tachwedd, byddwn ni'n sgwrsio gyda llais y gyfres ac un o leisiau amlycaf Cymru, y cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen.
Jonathan 60: Wrth i Jonathan 'Jiffy' Davies droi yn 60 oed, dyma raglen arbennig i ddathlu pen-blwydd arbennig yr arwr rygbi, darlledwr a llysgennad elusennol.
Nôl i'r Gwersyll: Cyfres hanes byw newydd sbon sy'n mynd â grŵp o gyn-wersyllwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau nôl mewn amser i ddegawdau'r 50au-80au i brofi penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.
Wrecsam: Clwb Ni: Cyfres newydd sy'n bwrw golwg ar effaith pryniant Clwb Pêl-droed Wrecsam gan actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar y dref a'i phobl.
Dal y Mellt: Bydd drama newydd sy'n llawn bywyd, bwrlwm, emosiwn, dirgelwch a chyffro yn dechrau ar S4C ar nos Sul, 2 Hydref.
Sgwrs Dan y Lloer: Y tro hwn bydd Elin Fflur yn siarad â'r delynores Elinor Bennett.
Pobol y Cwm - Gwyneth: Mae Gwyneth nôl yng Nghwmderi ac mae hi ar ôl waed un o'r trigolion anffodus. Cyfweliad gyda'r actores Llinor ap Gwynedd.
Mas ar y Maes: Mae arlwy Mas ar y Maes yn rhan annatod o gyffro'r Eisteddfod Genedlaethol - dyma gyfle i fwynhau'r wledd ar S4C.
Sgorio: Pwy bynnag 'da chi'n cefnogi, allwch ddilyn pob cam o'r tymor pêl-droed yng Nghymru gyda chyfres newydd o Sgorio.
Eisteddfod Ceredigion 2022: Y cyffro i gyd ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC i Player.
Y Sioe Frenhinol: Bydd S4C yn darlledu gwasanaeth cynhwysfawr o holl gyffro'r Sioe Frenhinol ar deledu, a thrwy ffrwd fyw ar y we yn Gymraeg a Saesneg ar sianel YouTube Y Sioe S4C a Facebook Y Sioe S4C.
Cymry'r Gemau: Rhaglen ddogfen arbennig sy'n cynnig cyfle unigryw i ddod i nabod pum aelod gwahanol o dîm Cymru, wrth iddyn nhw baratoi i gynrychioli eu gwlad yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham.
Y Fets: Cŵn Ceredigion sy'n cael y sylw y tro hwn gan gynnwys y Daschunds Bydi ac Eddie sy'n pryderu bob tro mae eu perchnogion yn gadael y tŷ.
DRYCH: Byw gyda MS: Rhaglen ddogfen dirdynol a gonest sy'n dilyn y cyflwynydd teledu cyfarwydd Daf Wyn wrth iddo dderbyn ddiagnosis o Multiple Sclerosis ac yntau ond yn 30 mlwydd oed.
DRYCH: Ti, Fi a'r Babi: Mae bywyd pennaeth gorsaf BBC Radio 1, Aled Haydn Jones, wedi newid yn gyfan gwb dros y deunaw mis ddiwethaf. Bydd cyfle i ddarganfod y datblygiadau diweddaraf mewn rhaglen ddogfen arbennig.
DRYCH: Bois yr Academi: Rhaglen ddogfen sy'n camu mewn i fyd academi pêl droed Abertawe i ddweud stori tri bachgen talentog sydd yn gobeithio bod yn yr un y cant o chwaraewyr academi sydd yn llwyddo i chwarae ar y lefel broffesiynol.
Pobol y Penwythnos: Cyfres newydd sy'n edrych ar y ffyrdd difyr mae pobl yn treulio eu penwythnosau – hobi diddorol, sefydlu busnes neu waith gwirfoddol neu gadwriaethol.
Y Fets: Mae Ystwyth Vets yn Aberystwyth yn agor eu drysau unwaith eto ac yn cynnig cip tu ôl i'r llen ar eu gwaith arbennig gydag anifeiliaid bach a mawr. Cyfres Newydd.
Eisteddfod yr Urdd: Edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd hir-ddisgwyliedig yn Ninbych.
Y Byd ar Bedwar: Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, bydd Paul Roberts o Lanberis a Ceri Jones o Ddwygyfylchi yn rhannu straeon dirdynnol am golli anwyliaid yn Rhyfel y Falklands.
Y Golau: Alexandra Roach sy'n serennu mewn drama newydd gyffrous gyda Joanna Scanlan, enillydd gwobr Bafta Best Leading Actress 2022 ac Iwan Rheon.
Iaith Ar Daith: Y DJ Katie Owens sy'n mynd ar daith i ddysgu Cymraeg y tro hwn. Bydd ei ffrind sydd hefyd yn DJ - Huw Stephens yn cadw cwmni iddi ac yn gosod sawl her ar hyd y ffordd.