Pobol y Cwm: Alaz: Mae Pobol y Cwm yn tynnu sylw at brofiadau erchyll ffoaduriaid drwy stori Alaz sy'n cael ei chwarae gan actor ifanc Cwrdaidd, Taro Bahar.
Iaith Ar Daith: Pennod llawn hwyl wrth i'r digrifwr Mike Bubbins fynd ar siwrnai fythgofiadwy i ddysgu Cymraeg gyda chymorth gan ei ffrind a chyd-gomedïwr. Elis James.
Teulu'r Castell: Cyfres newydd am fenyw fusnes lleol a'i theulu sydd wedi prynu Castell Llansteffan ger Caerfyrddin - ac mae ganddynt gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.
Iaith Ar Daith: Mae'r gyfres boblogaidd yn ôl! Y Parchedig Kate Bottley sy'n mynd ar daith byth gofiadwy i ddysgu Cymraeg gyda'r cyflwynydd a'r newyddiadurwr Jason Mohammad yn fentor iddi.
Rybish: Bydd gwylwyr S4C yn gallu mwynhau mwy o Rybish ar y sianel wrth i'r gyfres gomedi boblogaidd ddychwelyd am ail gyfres.
FFIT Cymru: Mae'r gyfres FFIT Cymru yn ôl ac yn llawn syniadau positif ac ysbrydoledig i gynnig i'r genedl.
Gweinidog Iechyd Mewn Pandemig: Rhaglen arbennig sy'n cynnig cip tu ôl i'r llen ar waith Gwenidog Iechyd Cymru Eluned Morgan yn ystod y pandemig.
Dathlu Dewrder: Rhaglen arbennig i ddathlu a dweud diolch wrth sawl grŵp a sawl unigolyn am eu gwaith hynod. Yng nghwmni Elin Fflur ac Owain Tudur Jones.
STAD: Cyfres newydd o'r gyfres ddrama sy'n llawn cyffro a hiwmor cymeriadau Maes Menai, stad tai cyngor mwyaf lliwgar y gogledd.
DRYCH: Lloches: Rhaglen ddogfen sy'n edrych ar fywydau'r sawl sydd yn ceisio am loches yng Nghymru.
DRYCH: Y Ceffyl Blaen: Rhaglen ddogfen arbennig am ddau gwmni Cymreig sy'n gadael eu marc ar y farchnad ceffylau rhyngwladol.
DRYCH: Dylanwad Jess Davies: Rhaglen ddogfen am y dylanwadwr Instagram Jess Davies sy'n trafod sut beth yw hi i fyw eich bywyd ar-lein gyda 150,000 o ddilynwyr.
DRYCH: Fi, Rhyw ac Anabledd: Mae gan Rhys Bowler Duchenne Muscular Dystrophy, anhwylder genetig sy'n achosi dirywiad cynyddol i'r cyhyrau, ac mae am drafod pwnc sy'n hollbwysig iddo.
Ysgol Ni: Moelwyn: Cyfres newydd sydd yn cynnig golwg pry ar y wâl ar blant, athrawon a bywyd bob dydd yn ysgol uwchradd Y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.
6 Gwlad Shane ac Ieuan: Bydd y dewin Shane Williams a chyn-gapten Cymru Ieuan Evans yn mynd ar wibdaith i ymweld â chwe prifddinas y Chwe Gwlad - Caerdydd, Rhufain, Paris, Caeredin, Llundain a Dulyn.
Enid a Lucy: Mae antur y ddwy ffrind annisgwyl yn parhau gyda chyfres newydd o'r gomedi dywyll sy'n serennu Eiry Thomas fel Enid a Mabli Jên Eustace fel Lucy.