BRYNbach yn perfformio'r gân Jen Jones, cân o deyrnged gan Bryn Fôn i'w nain.
Lleisiau Mignedd yn perfformio 'Mi Gerddaf Gyda Thi' ar Noson Lawen Dyffryn Nantlle - un o ganeuon y cyfansoddwr Robat Arwyn sy'n enedigol o'r Dyffryn.
Phil Gas a'r Band yn canu cân o deyrnged i 'Yncl John, John Watkin Jones' oedd ymysg cynulleidfa'r Noson Lawen ac a arferai fugeilio'i ddefaid ar Foel Tryfan.
Tipyn o gamp ar Noson Lawen wrth i Fflur Davies ganu cerdd dant i'w chyfeiliant telyn ei hun ar Noson Lawen - gosodiad Lois Eifion o 'Cofio' gan Mererid Hopwood ar yr alaw Beryl II gan Bethan Bryn.
BRYNbach yn canu am y croeso cynnes a'r gwmniaeth ar aelwyd Bob yn y gân "Tŷ Bob"
Elain Llwyd a Lleisiau Mignedd gyda pherfformiad angerddol o 'O Gymru' mewn Noson Lawen o Ddyffryn Nantlle.
Gethin a Glesni ar lwyfan Noson Lawen, y ddeuawd o Benygroes yn Nyffryn Nantlle yn canu cân newydd sbon gan Gethin yn dwyn y teitl 'Jerry'.
Elain Llwyd yn perfformio 'Gwenwyn yn fy Ngwaed' ar Noson Lawen.
Perfformiad byrlymus ar y delyn gan Nest Jenkins o 'Concerto in Jazz' (Emile Deltour) ar Noson Lawen Tregaron.
Robyn Lyn yn cyflwyno cerddoriaeth y cyfansoddwr Rossini i gynulleidfa Noson Lawen Tregaron gyda'i berfformiad o 'La Danza'.
Côr Ysgol Henry Richard dan arweiniad Sara Davies yn perfformio 'Byd yn Un' ar Noson Lawen Tregaron.
Y grŵp Bwca'n perfformio ar lwyfan y Noson Lawen am y tro cyntaf, gyda chân yn dwyn y teitl 'Tregaron' - addas iawn ar gyfer Noson Lawen gydag artistiaid o ardal Tregaron.
Ymuna Bois y Rhedyn gyda'r unawdwyr Robyn Lyn a Gwawr Edwards yn y gân gloi 'Dyrchefir Fi' yn Noson Lawen Tregaron.
Talentau ifanc y fro, Lili Rose a Gwenno Humphreys gyda'u cyfeilyddes Menna Griffiths yn perfformio'r gân 'Yn y Bore' gan y diweddar Ryan Davies, ar Noson Lawen Tregaron.
Criw hwyliog Bois y Rhedyn yn perfformio 'Cân y Bugeiliaid' gan Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan ar Noson Lawen Tregaron.
Gwawr Edwards yn perfformio 'Un Ennyd Mewn Oes' i gynulleidfa Noson Lawen Tregaron.
Lloyd Macey a pherfformiad o 'Heno Dan Sêr y Nos' yn ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfan y Noson Lawen.
Perfformiad ciwt a chywrain Noa Potter Jones o'r gân 'Ga'i Eliffant' ar Noson Lawen.
Hwyl a gwên yng nghwmni Bois y Gilfach gyda pherfformiad o eiriau'r diweddar Barch D Jacob Davies ar Noson Lawen.
Perfformiad cyffrous a thanbaid Tom Mathias o 'Csardas' gan Vittorio Monti ar Noson Lawen.
Dychwela Danielle Lewis i'r Noson Lawen i berfformio'i chân hyfryd 'Arwain Fi i'r Môr'
Ryland Teifi yn perfformio'r gân 'Craig Cwmtydu' ar Noson Lawen - cân sy'n disgrifio hud arfordir Ceredigion.
Perfformiad hudolus a sensitif Ryland Teifi a Danielle Lewis o suo gân.
Derbyniad brwdfrydig gan gynulleidfa Noson Lawen i berfformiad Côr Unedig Ysgolion Pontrhydfendigaid, Mynach a Syr John Rhys o'r gân 'Dwi'n Gymro Dwi'n Gymraes' gan Caryl Parry Jones.
Ilid Llwyd Jones gyda pherfformiad o fedli Piazzolla ar yr obo mewn Noson Lawen ar lwyfan y Brifwyl yn Llanrwst 2019.
Fleur de Lys yn perfformio'u cân 'Ti'n Gwbod Hynny' ar Noson Lawen.
Harmoni perffaith ym mherfformiad Triawd Edern, gydag Ann Peters Jones yn cyfeilio, o'r hyfryd 'Pie Jesu'.
Yr amryddawn Lois Glain Postle yn difyrru cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'i doniau llais a dawns.
Ieuan Jones yn diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'i ddawn iodlo acrobatig.