Eirlys Myfanwy Davies yn clodfori rhyddid bywyd y sipsi yn ei pherfformiad o 'Hei-Ho!' mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn Llanelli.
Ymuna Angharad Brinn a Rhys ap William gyda Huw Chiswell mewn perfformiad o'i gân eiconig 'Y Cwm' i gloi'r Noson Lawen.
Dafydd Iwan yn ei afiaith yn canu un o'i ffefrynnau 'Dal i Ganu Yma o Hyd' ar lwyfan y Noson Lawen.
Huw Chiswell yn diddanu cynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad o'i gân 'Gadael Abertawe'.
Dafydd Iwan yn canu 'Cân y Glowr' - geiriau addas o deyrnged ar Noson Lawen wedi ei recordio yn Llanelli.
Côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn diddori cynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad o 'Dyna Ryfeddod Yn Wir' mewn rhaglen gydag artistiaid o Abertawe.
Perfformiad o'r emyn don 'Rachie' gan Gôr y Sgarlets ar lwyfan y Noson Lawen o Lanelli - yn adlewyrchu'r traddodiad o ganu ar y terasau rygbi.
Dychwela Angharad Brinn i lwyfan y Noson Lawen i ganu 'Hedfan Heb Ofal' (Caryl Parry Jones / Christian Phillips).
Perfformiad Owain Williams o'r gân 'Ar Noson Fel Hon' gan Dafydd Rhys Evans ar Noson Lawen.
Sian Richards, y gantores gyfansoddwraig o Abertawe, yn canu 'Adref' - cân oddi ar ei halbwm sy'n dwyn y teitl 'Trwy Lygaid Ifanc'.
Rhodri Thomas, y trombonydd o Llanelli, yn perfformio 'Londonderry Air' mewn Noson Lawen gydag artistiaid eraill o'i dref enedigol.
Côr Ysgol Gymraeg Llangennech gyda'u harweinydd Lewis Richards yn cyffroi cynulleidfa Noson Lawen yn Llanelli gyda pherfformiad o 'Glyndŵr' gan Leah Owen ac Angharad Llwyd.
Ymuna holl artistiaid Noson Lawen Llanelli yn y gân gloi i gofio am yr annwyl Ray Gravell - 'West is Best' gan Caryl Parry Jones.
Baldande yn perfformio 'Hedfan Heb Adenydd' ar lwyfan Noson Lawen Aman a'r Gwendraeth.
Aelodau Theatr Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio medli o ganeuon o'r sioe Nia Ben Aur ar lwyfan y Noson Lawen.
Undod lleisiol ym mherfformiad Gwenda a Geinor mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r Aman a'r Gwendraeth. Mae'r gân 'Mewn Undod Mae Nerth' yn son am hanes Cwm Gwendraeth, y gweithfeydd glo, brwydr Llangyndeyrn a'r iaith Gymraeg.
Osian Clarke o Rydaman yn perfformio 'Eryr Pengwern' mewn Noson Lawen gyda chydartistiaid a chynulleidfa o ardal Aman a'r Gwendraeth.
Harmoni gyda'u hyfforddwraig Catrin Hughes yn perfformio 'Tŷ ar y Mynydd' ar Noson Lawen.
Elin Wyn Murphy yn perfformio 'Mil o Gelwydde' gan Caryl Parry Jones mewn Noson Lawen gydag artistiaid a chynulleidfa o'r Aman a'r Gwendraeth.
Rhys ap William yn talu teyrnged i'w ardal enedigol yng Nghwm Tawe gyda'i berfformiad o'r gân 'Adra' (Gwyneth Glyn) ar Noson Lawen.
Sain gyfoethog Côr Meibion Pontarddulais yn codi'r to mewn perfformiad o 'Gwinllan a Roddwyd' - geiriau heriol Saunders Lewis a cherddoriaeth rymus Caradog Williams.