Côr Ieuenctid Môn gyda'u harweinyddes Mari Lloyd Pritchard a'u cyfeilyddes Ann Peters Jones yn perfformio 'Cariad Yw' mewn Noson Lawen gydag artistiaid o Fôn.
Fleur de Lys yn agor Noson Lawen gyda thalentau Môn â'r gân 'Sbectol'.
Y Brodyr Magee yn perfformio 'Yr Haf' yn eu hymddangosiad cyntaf ar lwyfan y Noson Lawen.
Y gantores gyfansoddwraig Magi Tudur yn perfformio un o'i chaneuon 'Rhywbryd' ar Noson Lawen gyda chyd-artistiaid o Ddyffryn Peris.
Côr Meibion Dyffryn Peris dan arweiniad Dafydd Roberts a'u cyfeilydd Bethan Holding yn cyflwyno geiriau Dafydd Iwan ar alaw Hefin Elis – Yr Anthem Geltaidd - ar y gyfres Noson Lawen gyda chyd-artistiaid o'r dyffryn.
Trio a Chôr Ysgol Brynrefail yn cloi Noson Lawen Dyffryn Peris gyda pherfformiad pwerus o 'Safwn Yn Y Bwlch' - 'anthem' Hogia'r Wyddfa.
Lleisiau cyfoethog TRIO yn cyfleu angerdd y gân 'Ti Yw y Rheswm' ar Noson Lawen.
Deuawd hyfryd, Leisa Gwenllian a Cadi Thomas yn perfformio 'Hetiau' gan Meinir Gwilym ar Noson Lawen.
Owain Llestyn gyda pherfformiad meistrolgar ar y corned o 'Tico Tico' (Zequinha de Abreu) ar Noson Lawen
Sioned Terry gyda pherfformiad o 'Mi freuddwydiais' ar Noson Lawen.
Côr Ysgol Brynrefail yn perfformio'r gân boblogaidd 'Yma Wyf Inna i Fod' gan Meirion Macintyre Huws a Geraint Lovgreen ar Noson Lawen gyda chynulleidfa ac artistiaid o Ddyffryn Peris.
I Fight Lions yn cyflwyno'r gân 'Calon Dan Glo' ar lwyfan y Noson Lawen.
Hywel Pitts, a'i dafod yn ei foch yn perfformio 'Ewch i Lanberis' i gynulleidfa Noson Lawen Dyffryn Peris.
Diweddglo llawn cyffro wrth i'r holl artistiaid ymuno mewn perfformiad o 'Y Gŵr o Gwm Penmachno' i gloi'r Noson Lawen ar lwyfan mawr pafiliwn Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Perfformiad gwefreiddiol gan CoRwst a Chôr Bro Cernyw o 'Cymru Lloegr a Llanrwst' - cân eiconig Y Cyrff - mewn Noson Lawen ar lwyfan Prifwyl 2019 yn Llanrwst.
Ceri Roberts, Siriol Elin, Ruth Roberts a Sara Davies - cantorion o ddalgylch Eisteddfod Sir Conwy 2019 yn perfformio medli o ganeuon Edward H yn y Noson Lawen yn y pafiliwn.
Mae Arwel Lloyd yn ôl yn ei ardal enedigol yn perfformio 'Gorwedd Yn Y Blodau' gyda chymorth Ffion Emyr mewn Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Hogie'r Berfeddwlad yn diddannu'r dorf mewn Noson Lawen ym Mhrifwyl 2019 gyda'r gân 'Ffrydiau'r Dyffryn' o waith Myrddin ap Dafydd a Ruth Lloyd Owen.
Tara Bethan gyda chymorth Ffion Emyr a phlant Ysgol Bro Aled yn cofio am afiaith bywyd ei diweddar dad Orig Williams ar lwyfan y Noson Lawen ym Mhrifwyl 2019.
Tara Bethan a Chôr Bro Cernyw ar lwyfan Prifwyl Sir Conwy 2019 yn canu medli o ganeuon gyda'r geiriau o waith Myrddin ap Dafydd.
Cynulleidfa'r Noson Lawen ym Mhrifwyl 2019 yn mwynhau'r tynnu coes am y sîn gorawl yng Nghymru gyda Catrin, Esyllt a Dylan Cernyw.
Ymuna dau gôr ieuenctid o Ddyffryn Conwy - Côr Canwy a Chôr Cantilena i berfformio'r gân 'Talu'r Pris' ar lwyfan y Noson Lawen ym Mhafiliwn Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Perfformiad arbennig o 'Y Pysgotwyr Perl' gan John Ieuan Jones a Ryan Vaughan Davies yn Noson Lawen Eisteddfod 2019.
Perfformiad o ganeuon y cerddor T Osborne Roberts gan ensemble o leisiau o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. (Erin Rossington, Ceri Roberts, Siriol Elin, Ruth Roberts, Sara Davies, John Ieuan Jones a Ryan Vaughan Davies)
Perfformiad gan bedwarawd SATB - Ceri Roberts, Erin Gwyn Rossington, Ryan Vaughan Davies a John Ieuan Jones o'r gân hyfryd 'Llanrwst' (Gareth Glyn / T Glynne Davies) yn y Noson Lawen o Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Datganiad hyfryd y ffliwtydd Epsie Thompson ar Noson Lawen o 'Autumn Leaves' gan Joseph Kosma.
Y Brodyr Gregory a Gwenda a Geinor yn perfformio 'Cân i Ryan' ar Noson Lawen - cân o deyrnged i'r diweddar Ryan Davies.
Ymuna cynulleidfa'r Noson Lawen yn yr hwyl gyda Baldande a Chôr Theatr Gwendraeth Elli i ganu 'Lawr ar Lan Y Môr'.
Aelodau'r grŵp Pwdin Reis yn mwynhau perfformio'u cân arddull rockabilly 'Mas o Ma' i gynulleidfa'r Noson Lawen.
Y grŵp Pwdin Reis yn tywys cynulleidfa'r Noson Lawen yn ôl i'r 1970au i gofio am Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog - mewn perfformiad o 'Dicsi'r Clustie'.