Pennod 1: S4C Heddiw

Yn unigryw, yn annibynnol, yn canolbwyntio ar wasanaeth cyhoeddus, ac uwchlaw dim, yn Gymraeg. Mae S4C heddiw yn enw cyfarwydd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Pennod 1: S4C Heddiw

Yn unigryw, yn annibynnol, yn canolbwyntio ar wasanaeth cyhoeddus, ac uwchlaw dim, yn Gymraeg. Mae S4C heddiw yn enw cyfarwydd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Rydym yn darparu gwasanaeth teledu Cymraeg ar bob prif lwyfan yng Nghymru, ar loeren a chebl ledled y DU, a gwasanaethau dal-i-fyny ar-lein sydd ar gael ar alw.

Rydym yn cyflwyno amrywiaeth eang o gynnwys o ansawdd uchel – adloniant, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth – ac rydym yn ceisio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl ar y llwyfannau mwyaf perthnasol a chyfoes. Mae gwasanaeth S4C yn sicrhau dewis ac amrywiaeth pwyslais, a thrwy gomisiynu cynnwys gan ystod eang o gwmnïau cynhyrchu annibynnol , mae’n cyfuno amrywiaeth o safbwyntiau a gweledigaethau.

Mae hyn yn un elfen o’r berthynas adeiladol a chydweithredol sydd wedi ei datblygu rhwng y ddau ddarlledwr dros y blynyddoedd diweddar, ac sy’n cynnwys cydweithio creadigol newydd, galluogi i gynnwys S4C fod ar gael ar y BBC iPlayer, a chynllunio arbedion ariannol trwy rannu adnoddau technegol.

Mae BBC Cymru’n darparu isafswm o ddeg awr yr wythnos o raglenni i’r gwasanaeth, o’i gyllid ei hun, trwy ofyniad statudol. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys gwasanaeth newyddion cynhwysfawr, opera sebon dyddiol, rhaglenni chwaraeon a’r Eisteddfod Genedlaethol.

y Gwyll
Clwb Rygbi
Pobol y Cwm
Sgorio
Cyw

Dosraniad Gwariant S4C 2015/16

£52,752
Cost yr awr - Rhaglenni a gomisiynwyd gan S4C 2009
Down 35%
£34,168
Cost yr awr - Rhaglenni a gomisiynwyd gan S4C 2015/16 ²
50
Nifer y cwmniau cynhyrchu ²
£16,374
Cost yr awr - Holl oriau darlledu 2009
Down 34%
£10,802
Cost yr awr - Holl oriau darlledu 2015/16 ²

SEFYLLFA BRESENNOL S4C MEWN BYD AML-SIANEL, TRAWS-LWYFAN

Er bod y dymuniad i wylio cynnwys Cymraeg, a chael eu haddysgu a’u diddanu yn Gymraeg, yn uno ein cynulleidfa, nid yw holl siaradwyr Cymraeg yn un demograffeg unigol. Mae ein cynulleidfa yn groestoriad o’r boblogaeth ehangach sydd, yn naturiol, yn cynnwys llawer o grwpiau oedran a diddordebau gwahanol. Hyd yn oed cyn y newid i ddigidol yng Nghymru yn 2010, dechreuodd S4C, ynghyd â’r holl DGCau eraill, weld dirywiad yn ei chynulleidfa wrth i wylwyr brofi’r cannoedd o sianeli newydd a ddaeth ar gael a chwilio am raglenni oedd yn targedu eu hanghenion a’u diddordebau yn fwy rheolaidd – boed yn gerddoriaeth, chwaraeon, ffordd o fyw neu ddrama.

Llwyddodd Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus eraill i fodloni’r her o ddal gafael ar gyfran o’r gynulleidfa drwy lansio sianeli teledu newydd ar gyfer cynulleidfaoedd targed, e.e. E4 ac ITV2, y ddau yn apelio at bobl iau. Mae datblygu teulu o sianeli teledu, ac yna ategu hyn gyda chynigion ar-lein wedi’u targedu, wedi galluogi DGCau eraill yn y DU i gynnal eu cyfran o’u marchnad fwy neu lai.

Nid yw’r hyblygrwydd ariannol wedi bod gan S4C i archwilio opsiynau tebyg. Byddai bodloni costau dosbarthu a chostau Dewislen Rhaglenni Electronig, yn ogystal â chost cynnwys newydd, yn faich mwy fel cyfran i DGC bach â chyllideb sy’n lleihau, nag i ddarlledwr mwy. Yn ogystal â chyfyngiadau ariannol, mae ein cylch gorchwyl presennol yn hen-ffasiwn gan nad yw’n ein galluogi i gomisiynu’n benodol ar gyfer cynulleidfaoedd digidol. Gyda thechnolegau newydd yn datblygu, mae’n rhaid i ni edrych nawr i ddatblygu S4C sydd hyd yn oed yn fwy perthnasol i garfannau gwahanol o’r gynulleidfa, gan greu mathau newydd o gynnwys, cyflwyno gwasanaethau newydd a harneisio brwdfrydedd y gynulleidfa dros ffyrdd newydd o ddefnyddio cynnwys y cyfryngau. Rhaid i ni gyflawni hyn yn gost-effeithiol ac yn gyflym, a chadw sianel linol apelgar a chadarn wrth wraidd cynnig S4C ar yr un pryd.

  • BBC one
  • BBC two
  • BBC three
  • BBC four
  • BBC news
  • BBC parliament
  • BBC sport
  • ITV one
  • ITV two
  • ITV three
  • ITV four
  • ITV Be
  • ITV Encore
  • CITV
  • Channel 4
  • More 4
  • E4
  • Four 7
  • Film 4
  • All 4

Y
Ffordd
Ymlaen

Yr hyn sy’n gyrru popeth i S4C yw’r gynulleidfa. Mae’n gofyn llawer, mae’n byw mewn byd sy’n fwyfwy cysylltiedig ac mae eisiau gwylio, defnyddio a rhannu cynnwys cyfryngol trwy gyfrwng y Gymraeg – iaith sy’n ffynnu. Eto, prin yw’r cynnwys Cymraeg ar hyn o bryd ar draws sianeli’r cyfryngau cymdeithasol a’r llwyfannau digidol lle mae llawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn treulio’u hamser. Nid yw anghenion presennol siaradwyr Cymraeg, na’u hanghenion yn y dyfodol, yn cael eu diwallu.

I fod yn berthnasol, mae angen cylch gorchwyl diwygiedig ar S4C fel bod modd i ni fod ym mhob man lle mae’r gynulleidfa, yn cynnig ystod o gynnwys yn y ffurfiau amrywiol y mae eisiau eu defnyddio, pryd bynnag a sut bynnag y mae’n dymuno gwylio. Nid yw ymagwedd un-maint-i-bawb yn gweithio i ddarlledwyr mwyach; mae angen i ni ddarparu dull wedi’i bersonoli, ac wedi ei deilwra’n fwy at yr unigolyn, o ddarparu cynnwys ac ymgysylltu â’n cynulleidfa.

Os na allwn wneud y buddsoddiad angenrheidiol i weithredu’r cyfryw newidiadau, mae perygl i ni ddifreinio’r siaradwyr Cymraeg a ddaeth ag S4C i fodolaeth, y rhai sy’n gwylio, yn mwynhau ac yn cefnogi’r sianel heddiw a’r rheiny sydd eisiau’r dewis o gael eu haddysgu, o gael gwybodaeth a chael eu diddanu yn Gymraeg yn y byd cysylltiedig am flynyddoedd i ddod.