Pennod 4: ATEBOLRWYDD, LLYWODRAETHU A RHEOLEIDDIO S4C

Mae S4C wedi bod yn sefydliad annibynnol erioed, gyda chylch gorchwyl unigryw, yn ymroi i ddarparu gwasanaeth teledu o ansawdd uchel yn Gymraeg.

Pennod 4: ATEBOLRWYDD, LLYWODRAETHU A RHEOLEIDDIO S4C

Mae S4C wedi bod yn sefydliad annibynnol erioed, gyda chylch gorchwyl unigryw, yn ymroi i ddarparu gwasanaeth teledu o ansawdd uchel yn Gymraeg. Mae’r annibyniaeth hon wedi caniatáu i ni gystadlu a chydweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant cynnwys, gan ein galluogi i hyrwyddo a chefnogi sector cwbl newydd o’r economi yng Nghymru a gwneud cyfraniad hollbwysig I ddiwylliant Cymru. Yng Nghymru, lle mae nifer y darparwyr cyfryngau cenedlaethol yn fach, gwnawn gyfraniad hanfodol at sicrhau amrywiaeth llais.

AWDURDOD S4C

Yn y ddeddfwriaeth a sefydlodd S4C, cyfeirir at y gwasanaeth fel ‘Sianel Pedwar Cymru’ (S4C) a chyfeirir at y corff sy’n darparu’r gwasanaeth fel ‘Awdurdod S4C’, neu ‘yr Awdurdod’, sydd, i bob pwrpas, yn gweithredu fel y Bwrdd.

Ar hyn o bryd, mae prif gyfrifoldebau Awdurdod S4C yn cynnwys:

  • sicrhau bod S4C yn darparu gwasanaethau teledu,
  • cymeradwyo strategaeth, cyllideb flynyddol a chynlluniau ariannol tymor hir S4C,
  • goruchwylio, cymeradwyo a chraffu ar reolaeth briodol S4C,
  • gweithredu fel corff cyhoeddus,
  • gweithredu fel rheoleiddiwr ar faterion penodol,
  • paratoi adroddiadau blynyddol a chyfrifon, a
  • phenodi Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd.

Swyddogaeth a Hyblygrwydd

Mae strwythurau llywodraethu a chyfrifoldebau S4C wedi datblygu ers ei lansio ym 1982 yn unol â newidiadau mewn deddfwriaeth, cyfrifoldebau rheoleiddio, y gwasanaethau a ddarperir a datblygiadau arfer gorau.

Ar y dechrau, roedd aelodau’r Awdurdod yn cael eu penodi fel cynrychiolwyr cyrff llywodraethol darlledwyr eraill a rheoleiddwyr, er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r sianel newydd lwyddo. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, trosglwyddwyd llawer o gyfrifoldebau rheoleiddio i Ofcom dan ddeddfwriaeth gan olygu fod y cysyniad o Awdurdod hunanreoleiddio wedi mynd yn llai pwysig. Yn dilyn y penderfyniad y byddai cyllid i S4C yn cael ei ddarparu’n bennaf o ffi’r drwydded deledu, rhoddwyd Cytundeb Gweithredu ar waith rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC yn 2012/13, gydag Ymddiriedolwraig Cymru y BBC yn dod yn aelod o’r Awdurdod.

Mae’r berthynas reoleiddiol gydag Ofcom eisoes yn bodoli ac mae wedi’i sefydlu’n dda dros lawer o flynyddoedd.

Ein perthynas â’r BBC

Yn ystod y cyfnod 2013-2017, fe fu presenoldeb Ymddiriedolwraig Cymru y BBC fel aelod o Awdurdod S4C yn werthfawr o ran sicrhau dealltwriaeth dda rhwng S4C a’r BBC yng nghyd-destun perthynas ariannu newydd.

Cyn hir, bydd y BBC yn symud at fodel llywodraethu ac atebolrwydd ar ffurf bwrdd unedol, a bydd yn ofynnol gwneud addasiadau i’r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr.

Mae’r BBC a ninnau’n cytuno, gan fod gwahaniaeth mawr rhwng swyddogaethau Ymddiriedolaeth y BBC - fel corff rheoleiddio, anweithredol - a rhai bwrdd unedol, na ddylai fod yna ofyniad bellach i gael cynrychiolydd y BBC ar Fwrdd/Awdurdod S4C.

Bydd yn bwysig, fodd bynnag, fod cysylltiad cadarn yn parhau rhwng S4C a’r BBC ar lefel y DU a Chymru, er mwyn sicrhau cydweithio a chydweithredu i ddarparu’r buddion gorau posibl i wylwyr.

Dylid rhoi gofynion ffurfiol ar waith ynglŷn ag amlder cyfarfodydd a gofnodir rhwng Cadeirydd S4C a Chadeirydd y BBC, a rhwng Cadeirydd S4C ac aelod Bwrdd y BBC dros Gymru, yn ogystal â darpariaethau priodol i barhau’r Bwrdd Partneriaeth ar y Cyd rhwng swyddogion S4C a swyddogion BBC Cymru.

Gyda strwythurau newydd y BBC yn dod i rym yn Ebrill 2017, fe fu’n angenrheidiol cychwyn trafod trefniadau atebolrwydd newydd gyda’r BBC ar gyfer cyllid S4C o’r Drwydded Deledu o’r dyddiad hwnnw, cyn dechrau’r Adolygiad o S4C. Rydym yn rhagweld mai’r canlyniad fydd cytundeb newydd a fydd yn disodli Cytundeb Gweithredu 2013-17. Mae’r trafodaethau’n adeiladol ac yn parhau.

Elfennau allweddol strwythur llywodraethu ac atebolrwydd priodol

Rydym yn cydnabod y cyfle y mae’r adolygiad yn ei gynnig i edrych o’r newydd ar bob agwedd ar atebolrwydd, rheoleiddio, llywodraethu ac ariannu S4C, ac edrychwn ymlaen at gyfrannu at drafodaethau ar y materion hyn. Wrth i S4C symud o fod yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus i fod yn ddarparwr cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, bydd rhai elfennau craidd o’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth yn parhau.

Yn benodol, bydd gofyn:

  • derbyn a bod yn atebol am gyllid cyhoeddus;
  • ystyried anghenion y gynulleidfa;
  • cynllunio’r gwasanaeth a blaenoriaethu;
  • sicrhau hawliau cyfreithiol perthnasol;
  • comisiynu’r cynnwys;
  • sicrhau dosbarthu’r cynnwys;
  • sicrhau hyrwyddo’r cynnwys;
  • adolygu’r perfformiad.

Yn y ddogfen hon, nid ydym yn bwriadu cynnig barn gorfforaethol bendant gerbron ynghylch strwythurau ar gyfer dyfodol S4C, ond yn hytrach nodi’r elfennau hynny y credwn eu bod yn hollbwysig i gefnogi ein huchelgais ar gyfer gwasanaeth S4C yn y dyfodol a’i rôl ym mywydau pobl yng Nghymru, y DU a ledled y byd.

 

 

Mae S4C yn awgrymu bod yr elfennau hyn fel a ganlyn:

  • Bod S4C yn bodoli fel sefydliad annibynnol i ddarparu gwasanaethau teledu a’r cyfryngau yn y Gymraeg a chydweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant cynnwys.
  • Dylai S4C gael cylch gorchwyl diwygiedig, a ddylai gynnwys y ddyletswydd benodol o ddarparu teledu a gwasanaethau cyfryngau Cymraeg i’r gynulleidfa ledled y DU, ac yn darparu’r gallu i ni addasu a datblygu ein gwasanaethau wrth i dechnoleg ac anghenion defnyddwyr ddatblygu.
  • Bod S4C yn cael ei ariannu drwy gyllid cyhoeddus yn bennaf ond gall ymgymryd â gweithgareddau masnachol drwy is-gwmnïau na allant, fodd bynnag, ddefnyddio cyllid cyhoeddus.
  • Bod S4C yn gallu arfer ei bwerau i fenthyg cyllid at ddibenion penodedig o fewn terfynau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Changhellor y Trysorlys.
  • Bod y prosesau a ddefnyddir gan S4C i gyfrif am ei ddefnydd o gyllid cyhoeddus ac am gyflawni ei gylch gorchwyl yn briodol a chlir.
  • Bod y prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â beth yw cyllid digonol i S4C gyflawni ei gylch gorchwyl yn briodol a chlir.
  • Bod atebolrwydd i Ofcom ar gyfer y rhan fwyaf o faterion rheoleiddio (ac eithrio ar gyfer rhai pynciau penodol, megis canllawiau a pholisïau iaith) yn cael ei gadarnhau.
  • Dylai aelodau anweithredol, sy’n cyflawni ystod eang o feini prawf yn ymwneud â’r cylch gorchwyl newydd, gynrychioli mwyafrif clir y corff llywodraethol neu Fwrdd.
  • Dylid penodi’r aelodau anweithredol drwy broses penodiadau cyhoeddus dryloyw.
  • Dylai’r Prif Weithredwr gael ei benodi gan aelodau anweithredol y Bwrdd.
  • Dylai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am sicrhau trefniadau llywodraethu corfforaethol priodol, o ansawdd uchel, yn unol ag arfer gorau’r DU.
  • Dylai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am weithredu proses briodol ar gyfer gwerthuso ac adrodd ar berfformiad gwasanaethau wedi’i fesur yn erbyn amcanion.