Crynodeb Gweithredol
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth S4C ar gyfer y deng mlynedd nesaf, ac fe fydd yn elfen allweddol o’n
cyflwyniad i’r adolygiad annibynnol o gylch gorchwyl, cyllido ac atebolrwydd y sianel.
Yn y crynodeb gweithredol hwn, nodwn y pwyntiau allweddol a amlinellwyd yn y ddogfen, pennod wrth bennod.
Pennod 1: S4C Heddiw
Yn y bennod gyntaf, rhown amlinelliad o S4C fel ag y mae heddiw.
Ystyriwn y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo, sut mae hwn
wedi datblygu yn y 35 mlynedd ers i’r sianel gael ei chreu, a beth mae
hyn yn ei olygu i S4C yfory.
S4C Heddiw
- Mae S4C yn darlledu dros 115 o oriau o raglenni bob wythnos, gan
gynnwys gwasanaeth i blant, drama, newyddion, adloniant,
chwaraeon, rhaglenni ffeithiol, cerddoriaeth a digwyddiadau.
- Mae ein cynnwys yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd yn y Gymru
fodern a bywyd y gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
- Mae S4C yn comisiynu’r mwyafrif helaeth o’n cynnwys Cymraeg
gan ystod eang o gwmnïau cynhyrchu annibynnol, medrus (tua 50 y
flwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf), sy’n gweithio ledled Cymru.
- Mae’r BBC hefyd yn darparu isafswm o ddeg awr yr wythnos o
raglenni o’i chyllideb ei hun i’r gwasanaeth.
- Ar ôl eu darlledu, mae modd gwylio rhaglenni S4C drwy’n
gwasanaeth ar-lein neu ar y BBC iPlayer – o ganlyniad i’r bartneriaeth
strategol ehangach gyda’r BBC.
- Mae effaith economaidd y cyllid cyhoeddus a fuddsoddir yn y sector
cynhyrchu a’r diwydiannau creadigol yn sylweddol – mae bob £1 a
fuddsoddwyd gan S4C yn yr economi yng Nghymru a’r DU yn creu
cyfanswm gwerth o £2.09.
- Gweithredwn yn ddarbodus, a chynhaliwn orbenion y sefydliad ar ryw
4%, ac mae cost cynnwys fesul awr wedi lleihau o draean er 2009.
- Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi cynyddu dros 10%
ers i S4C gael ei lansio ym 1982. Mae’r iaith yn ffynnu heddiw, ac fe’i
defnyddir gan bron i dri chwarter miliwn o bobl yng Nghymru a’r DU
i wahanol raddau yn eu bywydau – gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith ac
amser hamdden.
- Yn 2015/16, cyflawnom ein ffigurau gwylio teledu wythnosol uchaf yn
y DU mewn naw mlynedd (629,000). Ar draws y flwyddyn, fe wnaeth
9.9m o bobl wylio cynnwys S4C ledled y DU (i fyny o 8.4m yn
2014/15).
Mae’r byd yn newid
- Pan lansiwyd S4C ym 1982, dim ond pedair sianel deledu oedd i gael.
Heddiw, mae cannoedd o sianeli – gan gynyddu’r dewis a chynyddu’r
gystadleuaeth.
- Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd anferthol mewn llwyfannau
ar-lein gyda chynulleidfaoedd yn mudo iddynt o sianeli teledu
traddodiadol.
- Mae Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (DGCau) eraill wedi gallu
lansio sianeli i dargedu cynulleidfaoedd sy’n mudo.
- Yn y dyfodol, mae’n rhaid i S4C sicrhau bod cynnwys Cymraeg ar gael
ar gymaint o lwyfannau â phosibl.
- Mae cylch gorchwyl S4C yn hen ffasiwn – fe’i crëwyd yn unol ag
arferion defnyddio’r cyfryngau o’r gorffennol. Nid yw’n ein galluogi ni i
gomisiynu ar gyfer cynulleidfaoedd digidol yn benodol.
Pennod 2: S4C Yfory – Ein Gweledigaeth
Mae’r bennod hon yn esbonio’n fanwl ein gweledigaeth ar gyfer
S4C newydd sy’n apelgar ac yn datblygu’n gyson o ran y cynnwys a
gomisiynwn a’r modd y mae pobl yn defnyddio’r cynnwys hwnnw.
Amlinellwn y camau y byddwn yn eu cymryd i ddarparu cynnwys
cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus modern a chynhwysfawr i
gynulleidfaoedd presennol a chynulleidfaoedd newydd.
Mae ein gweledigaeth wedi’i seilio ar bedair elfen allweddol:
- Darparu Cynnwys ar bob Llwyfan: Sicrhau y gall y gynulleidfa
ddefnyddio cynnwys S4C pryd, ble a sut bynnag y dymunant.
- Creu’r Cynnwys Cywir: Ei wneud yn fwy perthnasol, cystadleuol ac
amrywiol.
- Gwerth Ehangach fel Gwasanaeth Cyhoeddus: Sicrhau buddion
economaidd, ieithyddol ac addysgol o’n gwaith.
- Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth: Gwella ein
galluoedd a’n henw da masnachol.
Darparu Cynnwys ar bob Llwyfan
Mae’n rhaid i S4C ddod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth
Cyhoeddus (CGC) Cymraeg ar yr holl lwyfannau poblogaidd – darlledu,
Teledu Clyfar, y cyfryngau cymdeithasol, safleoedd fideo ffurf-fer,
safleoedd ffurf-hir ar-lein, ac ati. Rhaid i ni wneud hyn ar yr un pryd
â pharhau i fuddsoddi yn ein presenoldeb ar brif lwyfannau darlledu
teledu.
Bydd S4C yn:
- datblygu un cartref digidol hwylus sy’n galluogi ein cynulleidfa i
ddefnyddio holl gynnwys S4C mewn un lle, gan gynnwys cynnwys o’r
archif lle gellir sicrhau’r hawliau perthnasol;
- cynnig gwasanaeth personoledig i aelodau’r gynulleidfa – cynnwys
sy’n bodloni anghenion unigol a’r gallu i guradu’n unol â hynny ar
lwyfannau perthnasol;
- sicrhau bod brand a chynnwys S4C mor amlwg ac ar
gael mor rhwydd â darparwyr DGC eraill ar Deledu Clyfar, ffrydwyr y
cyfryngau a darparwyr ar alw eraill;
- datblygu ac yn manteisio ar lwyfannau priodol ar gyfer darparu
cynnwys digidol i dargedu grwpiau oedran gwahanol, a’u poblogi’n
rheolaidd gyda chynnwys ffurf-fer newydd, apelgar.
Creu’r Cynnwys Cywir
Bydd S4C yn adfywio’r sianel linol – gan gyflwyno sianel linol fwy
cyffrous, fwy beiddgar, a mwy amrywiol a fydd yn chwarae rhan
amlycach ym mywydau ein cynulleidfa – gan ddefnyddio technoleg
i alluogi gwylwyr i ryngweithio mwy. I wneud hyn, mae angen i S4C
allu cystadlu gyda darlledwyr eraill sy’n cynnig tariffau uwch ar hyn o
bryd, tra bod cyllideb cynnwys S4C yn lleihau oherwydd gostyngiadau
mewn cyllid a phwysau chwyddiant. Disgwylir i werth cyllideb cynnwys
presennol S4C ostwng yn raddol mewn termau real dros bum mlynedd -
£1.6m yn is y flwyddyn nesaf, £8.7m yn is erbyn 2021/22.
Bydd S4C yn:
- creu mwy o gyfleoedd gwylio i’r teulu eu mwynhau fel grŵp – gan
gadarnhau rôl y sianel deledu fel cartref gwylio teuluol yn Gymraeg;
- creu digwyddiadau proffil uchel arwyddocaol – uchafbwyntiau yn
yr amserlenni sy’n tynnu pobl ynghyd ac yn ysgogi pobl i siarad yn eu
cymunedau ac ar y cyfryngau cymdeithasol;
- creu dau brif fath o gynnwys ffurf-fer – cynnwys gwreiddiol,
annibynnol sy’n ysgogi rhyngweithio rhwng cynulleidfaoedd
newydd sbon ar draws llwyfannau nad ydynt yn llinol; a chynnwys
sy’n hyrwyddo ac yn ehangu diddordeb mewn rhaglenni presennol ac
yn eu hategu;
- newid ein dull o gomisiynu er mwyn cwmpasu cynnwys ar bob ffurf;
- gwella cyfathrebu gyda chynhyrchwyr ac yn meithrin dealltwriaeth
glir o’n disgwyliadau creadigol cynyddol.
Gwerth Ehangach S4C fel Gwasanaeth Cyhoeddus
Mae cynnwys gwasanaeth cyhoeddus S4C yn cael ei werthfawrogi
a’i barchu’n eang gan ein cynulleidfa. Ond fel yr unig ddarlledwr a
darparwr cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn Gymraeg, gwnawn
gyfraniad sylweddol ac ehangach o ran gwasanaeth cyhoeddus i Gymru
a’r Gymraeg. Byddwn yn gweithio’n galed i gynyddu’n heffaith dros y
deng mlynedd nesaf.
Bydd S4C yn:
- cefnogi’r Gymraeg i hawlio ei lle yn y byd digidol trwy gomisiynu
ystod o gynnwys digidol a sicrhau ei fod ar gael;
- rhoi mwy o ffocws ar hyrwyddo amrywiaeth, cynwysoldeb a
symudedd cymdeithasol drwy ein cynnwys a’n comisiynu;
- cynnig mwy o gynnwys sy’n darparu ac yn atgyfnerthu profiadau
addysgol i bob oedran;
- gwneud mwy i annog trosglwyddiad iaith;
- gwneud mwy i helpu datblygu sgiliau’r cyfryngau – gan gynnwys y
rheiny sy’n bwydo i’r sector cynhyrchu yng Nghymru;
- cynyddu buddsoddiad yn y diwydiannau digidol a chreadigol yn unol
â chyllidebau.
Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth
Nod cangen Fasnachol S4C yw creu difidendau cynaliadwy i wasanaeth
cyhoeddus S4C. Ein nod dros y pum mlynedd nesaf yw adeiladu ar yr
hyn sy’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd, a darparu hyd yn oed mwy o
werth i’r gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd S4C Masnachol yn:
- cymryd brandiau ar yr awyr ac yn ymchwilio i ffyrdd o gael mwy o
werth ohonynt – gan wneud mwy i ddatblygu ar gynlluniau sydd
eisoes ar y gweill;
- creu mwy o gydgynyrchiadau drama mawr, beiddgar a fformatau i’w
datblygu’n rhyngwladol – gan adeiladu ar brosiectau presennol;
- datblygu partneriaethau newydd i gynhyrchu mathau newydd o
gynnwys ar gyfer holl lwyfannau S4C;
- Yn gwneud buddsoddiadau busnes sy’n helpu gwireddu’r weledigaeth
a chreu enillion ariannol i’r gwasanaeth.
Pennod 3: Gwireddu’r Weledigaeth
Yn y bennod hon, rydym yn amlinellu’r blaenoriaethau strategol y
credwn y dylai’r adolygiad o S4C eu hystyried. Bydd y rhain yn ein
galluogi i wireddu’r weledigaeth a amlinellwyd ym Mhennod 2 a
bodloni disgwyliadau’r boblogaeth Gymraeg.
Cylch gorchwyl newydd
Mae angen cylch gorchwyl hyblyg, wedi’i ddiweddaru i’n galluogi i
wireddu ein gweledigaeth. Byddai hyn yn gweld S4C yn datblygu
yn ddarparwr cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus – yn
ymgorffori’r cylch gorchwyl teledu presennol a’r gallu i greu a darparu
cynnwys ar lwyfannau eraill a chydnabod ein rôl yn gwasanaethu
cynulleidfaoedd ledled y DU.
Dylai’r cylch gorchwyl newydd alluogi’r sianel i ddarparu:
- cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus o safon uchel yn y
Gymraeg;
- ar y teledu a llwyfannau digidol;
- i’r gynulleidfa yng Nghymru, ledled y DU a thu hwnt.
Buddsoddiad ariannol
Cyllid sefydlog a digonol
I wireddu ein gweledigaeth, mae cyllid sefydlog a digonol yn hanfodol.
O dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, mae dyletswydd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol i ystyried faint o gyllid sydd ei angen ar S4C ac i
wneud trefniadau i sicrhau bod y swm hwn o arian yn cael ei ddarparu
i S4C bob blwyddyn – naill ai o arian y Llywodraeth, neu drwy wneud
trefniadau gyda chyrff eraill.
Ar hyn o bryd, mae incwm o ychydig dros £83m gan S4C. I gyflawni
a chynnal y lefelau gwasanaeth newydd a ddisgrifiwyd gennym, mae
angen buddsoddiad ychwanegol bob blwyddyn ar ben ein cyllideb
bresennol.
Beth yw cyllid digonol?
(a) Gwireddu darpariaeth cynnwys ar bob llwyfan:
Ein nod yw cyflwyno elfen lwyfan ac elfen ddigidol “Darpariaeth
Cynnwys ar Bob Llwyfan” dros gyfnod o bum mlynedd. Mae gwneud
hyn heb effeithio ar lefelau buddsoddi mewn cynnwys presennol yn
mynnu:
- buddsoddiad blynyddol ychwanegol o £6m y flwyddyn. Bydd hyn yn
galluogi S4C i gyflwyno ei wasanaeth ar deledu yn ogystal â
llwyfannau digidol, i fuddsoddi mewn cynnwys newydd ar gyfer
cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol, ac i ymgorffori cynnwys archif
yn y cynnig ar-lein.
(b) Cost creu’r cynnwys cywir
Nid oes ateb cwbl bendant i’r cwestiwn “faint o gyllid sydd ei angen
ar S4C i greu’r cynnwys cywir?” Gwaith y darlledwr yw darparu’r
gwasanaeth gorau posibl y gellir ei gyflwyno gyda’r arian sydd ar gael.
Fodd bynnag, nid yw cyllideb cynnwys bresennol S4C yn ddigonol i
wireddu’r weledigaeth a amlinellir ym Mhennod 2 y ddogfen hon, ac felly
mae angen cyllid ychwanegol os ydym am ei chyflawni.
Mae S4C wedi amlinellu’r ffactorau yr ystyriwn eu bod yn briodol ac
yn berthnasol i’r adolygiad annibynnol eu hystyried wrth geisio ateb y
cwestiwn beth yw cyllid digonol. Sef:
- meincnodau a osodir gan ddarlledwyr eraill, a’r modd y newidiant dros
amser;
- y ffaith mai S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg;
- lefelau ailddarlledu S4C, sydd i fyny i 58% ar hyn o bryd;
- cost S4C fesul awr ar draws pob genre o gymharu â gallu DGCau eraill
i fuddsoddi;
- yr angen i warchod cyllideb S4C yn erbyn pwysau chwyddiant;
- yr effaith gadarnhaol debygol a geir o gynnydd sylweddol mewn
buddsoddiad ar y gwasanaeth.
(c) Proses dryloyw ar gyfer y dyfodol
Nid yw Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn cyfeirio at unrhyw broses y
dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ei dilyn wrth wneud penderfyniad ynglŷn
â’r swm sydd ei angen i ariannu S4C. Mae’r gwendid hwn wedi gwneud
S4C yn agored i doriadau o bryd i’w gilydd, ac wedi peri i ofnau gael eu
mynegi ynglŷn â pharhad ymrwymiad y Llywodraeth.
Dylai fod yn flaenoriaeth i’r adolygiad argymell proses wrthrychol a
thryloyw ar gyfer penderfynu ar beth yw cyllid digonol ar gyfer S4C,
ar sail cylch gorchwyl newydd.
Mae S4C yn argymell bod yr egwyddorion cyllido a gynigiwyd gan yr
Undeb Ddarlledu Ewropeaidd yn cael eu mabwysiadu mewn perthynas
ag S4C, sef:
- sefydlog a digonol
- annibynnol o ymyrraeth wleidyddol
- teg a gellir ei gyfiawnhau
- tryloyw ac atebol.
Dylai’r broses ar gyfer diffinio anghenion cyllido cyffredinol S4C
gynnwys ystyriaeth o’r ffactorau canlynol hefyd:
- Disgwyliadau’r gynulleidfa
- Argaeledd cynnwys Cymraeg ar lwyfannau’r cyfryngau
- Costau cymharol creu cynnwys a chaffael hawliau
- Effeithlonrwydd S4C ei hun
- Egwyddor o berthynas gyfatebol gyda ffi’r drwydded
- Chwyddiant a phwysau costau eraill
Ffynonellau Cymorth Priodol
Dylai newid mewn cylch gorchwyl i ddod yn ddarparwr Cyfryngau
Gwasanaeth Cyhoeddus (yn cynnwys ein statws DGC presennol) annog
y rheiny sy’n gysylltiedig â’r adolygiad i edrych yn fwy eang ynglŷn ag o
ble y gallai’r buddsoddiad ychwanegol hwn ddod.
Rydym yn awyddus i gael y cyfle i godi mwy o arian o’n
gweithgareddau ein hunain, ond asgwrn cefn ein gwasanaeth
cyhoeddus fydd cyllid o ffynhonnell gyhoeddus.
Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cyfraniad o ffi’r drwydded
tuag at gyllid S4C yn gweithio’n dda – gan gydweithio gyda’r Adran
dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC i sefydlu prosesau
cadarn ac atebolrwydd priodol. Bydd S4C yn parhau i gael mynediad
effeithiol i’r ffynhonnell gyllid bwysig hon, a chynnal ein hannibyniaeth
ar yr un pryd.
Gyda chyllid ffi’r drwydded yn cael ei sianelu drwy’r BBC, mae cynnal
cyswllt ariannu gyda Llywodraeth y DU, drwy’r Adran dros Ddiwylliant,
y Cyfryngau a Chwaraeon, wedi bod yn hanfodol i ni barhau i fod yn
annibynnol ac i’n galluogi i gyflawni ein cylch gorchwyl Cymraeg.
Mae cael amryw ffynonellau cyllid yn parhau’n fuddiol ac yn egwyddor
i’w diogelu i’r dyfodol. Rhaid i unrhyw opsiynau ariannu yn y dyfodol
gynnal statws S4C fel darparwr cynnwys annibynnol, diduedd, y gellir
ymddiried ynddo.
Pennod 4: Atebolrwydd, Llywodraethu a Rheoleiddio
Yn y bennod hon, nid ydym yn rhoi barn gorfforaethol bendant gerbron
ynghylch y strwythurau atebolrwydd, llywodraethu a rheoleiddio gorau
ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach, rydym yn rhestru’r elfennau y credwn eu
bod yn hollbwysig i gefnogi uchelgais S4C ar gyfer y dyfodol, a’i rôl ym
mywydau pobl Cymru, y DU a ledled y byd.
Mae S4C yn awgrymu bod yr elfennau hyn fel a ganlyn:
- Bod S4C yn bodoli fel sefydliad annibynnol i ddarparu gwasanaethau
teledu a’r cyfryngau yn y Gymraeg a chydweithio gydag ystod eang o
bartneriaid yn y diwydiant cynnwys.
- Dylai S4C gael cylch gorchwyl diwygiedig, a ddylai gynnwys y
ddyletswydd benodol o ddarparu teledu a gwasanaethau cyfryngau
Cymraeg i’r gynulleidfa ledled y DU, ac yn darparu’r gallu i ni addasu a
datblygu ein gwasanaethau wrth i dechnoleg ac anghenion defnyddwyr
ddatblygu.
- Bod S4C yn cael ei ariannu drwy gyllid cyhoeddus yn bennaf ond gall
ymgymryd â gweithgareddau masnachol drwy is-gwmnïau na allant,
fodd bynnag, ddefnyddio cyllid cyhoeddus.
- Bod S4C yn gallu arfer ei bwerau i fenthyg cyllid at ddibenion
penodedig o fewn terfynau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a
Changhellor y Trysorlys.
- Bod y prosesau a ddefnyddir gan S4C i gyfrif am ei ddefnydd o gyllid
cyhoeddus ac am gyflawni ei gylch gorchwyl yn briodol a chlir.
- Bod y prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â beth yw
cyllid digonol i S4C gyflawni ei gylch gorchwyl yn briodol a chlir.
- Bod atebolrwydd i Ofcom ar gyfer y rhan fwyaf o faterion rheoleiddio
(ac eithrio ar gyfer rhai pynciau penodol, megis canllawiau a pholisïau
iaith) yn cael ei gadarnhau.
- Dylai aelodau anweithredol, sy’n cyflawni ystod eang o feini prawf yn
ymwneud â’r cylch gorchwyl newydd, gynrychioli mwyafrif clir y corff
llywodraethol neu Fwrdd.
- Dylid penodi’r aelodau anweithredol drwy broses penodiadau
cyhoeddus dryloyw.
- Dylai’r Prif Weithredwr gael ei benodi gan aelodau anweithredol y
Bwrdd.
- Dylai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am sicrhau trefniadau llywodraethu
corfforaethol priodol, o ansawdd uchel, yn unol ag arfer gorau’r DU.
- Dylai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am weithredu proses briodol ar gyfer
gwerthuso ac adrodd ar berfformiad gwasanaethau wedi’i fesur yn
erbyn amcanion.
Gair i Gloi
Yn S4C: Gwthio’r Ffiniau, rydym wedi amlinellu gweledigaeth y gellir ei gwireddu ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth, mae angen y canlynol ar S4C:
- Cytundeb ei bod yn iawn i S4C fod eisiau bod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn y Gymraeg ac nid yn ddarlledwr yn unig;
- Cydnabyddiaeth o’r hyn y mae hynny’n ei olygu, a’r buddion all ddeillio o hynny;
- Proses ar gyfer diffinio’r gofyniad cyllido
Edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus y
gobeithiwn y bydd yr adolygiad hwn, a’r weledigaeth hon ar gyfer
dyfodol S4C, yn ei hysgogi.