Pennod 3: Gwireddu’r Weledigaeth

Mae S4C wedi meddwl yn ddwys ynglŷn â’r gwasanaeth cyffrous, parhaol a chynaliadwy a garem ar gyfer ein cynulleidfa yn y dyfodol. Rydym wedi gwrando arnynt, ac wedi ymchwilio’r dewisiadau yng nghyd-destun presennol y cyfryngau a’r hyn a ragwelir yn y dyfodol.

Pennod 3: Gwireddu’r Weledigaeth

Mae S4C wedi meddwl yn ddwys ynglŷn â’r gwasanaeth cyffrous, parhaol a chynaliadwy a garem ar gyfer ein cynulleidfa yn y dyfodol. Rydym wedi gwrando arnynt, ac wedi ymchwilio’r dewisiadau yng nghyd-destun presennol y cyfryngau a’r hyn a ragwelir yn y dyfodol.

Heb newid sylweddol i’n cylch gorchwyl a buddsoddiad synhwyrol, bydd gennym wasanaeth disymud yn y tymor byr i ganolig, a bydd perthnasedd ein gwasanaeth fel y mae heddiw yn lleihau’n araf. Bydd gallu’r cyhoedd i gyrchu cynnwys Cymraeg ar lwyfannau cyfoes poblogaidd yn dirywio ymhellach a bydd statws y Gymraeg mewn cymdeithas fodern yn cael ei danseilio.

Rydym ni eisiau – ac angen – i S4C gael ei galluogi i ffynnu ac esblygu. Yn y modd hwn, bydd byd y cyfryngau ym Mhrydain yn parhau i fod yn amrywiol, yn fywiog ac yn berthnasol; bydd dyheadau pobl Cymru o ran y Gymraeg yn cael eu cefnogi a bydd cefnogaeth Llywodraethau i’r Gymraeg yn cael ei hatgyfnerthu; bydd economïau Cymru a Phrydain yn gallu elwa mwy fyth o effaith sylweddol ein gweithgareddau; byddwn yn cynhyrchu mwy o refeniw ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus – ac, yn hollbwysig, gall siaradwyr Cymraeg yn unrhyw le yn y byd gael eu hysbysu, eu haddysgu a’u difyrru gan gynnwys gwych, yn eu dewis iaith – yr iaith hynaf ym Mhrydain.

I wireddu ein gweledigaeth, mae S4C yn galw am:

  1. Gylch gorchwyl newydd – i rymuso S4C i fynd i’r afael â’r heriau
  2. Ffynonellau sefydlog, digonol a phriodol o gyllid – i sicrhau bod gan S4C ddigon o adnoddau i gyflawni ei chylch gorchwyl yn yr oes ddigidol
  3. Trefniadau rheoleiddio, llywodraethu ac atebolrwydd priodol – sy’n addas i S4C y dyfodol

CYLCH GORCHWYL NEWYDD

Mae cylch gorchwyl presennol S4C yn cyfeirio at

“ddarparu gwasanaethau rhaglenni teledu o ansawdd uchel y bwriedir iddynt fod ar gael i’w derbyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru.” 26

Nid yw’r cylch gorchwyl hwn wedi newid llawer ers i ni ddechrau darlledu ym 1982. Pe byddai ein gwasanaeth, disgwyliadau cynulleidfaoedd, technoleg a’r byd yr ydym ni’n gweithredu ynddo wedi aros yn sefydlog yn ystod y 35 mlynedd diwethaf, ni fyddai hyn yn broblem. Ond, wrth gwrs, mae’r pethau hyn wedi newid – a hynny’n ddramatig a thu hwnt i adnabyddiaeth. Nid set deledu yng nghornel yr ystafell yw’r unig ffordd o wylio cynnwys mwyach; mae cannoedd o sianeli llinol ac ar-lein ar gael bellach, nid pedair, a gall ein cynulleidfa nid yn unig wylio beth, pryd, ble a sut y mae’n dymuno – gall hyd yn oed greu ei chynnwys ei hun i’r cyhoedd ei weld ar-lein, yn ogystal â dylanwadu’n uniongyrchol ar gynnwys darlledwyr trwy bethau fel pleidleisio trwy apiau a sylwebaeth neu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol. Ers dyfodiad teledu digidol, mae S4C ei hun yn cael ei gwylio a’i mwynhau ledled y Deyrnas Unedig, a thramor, lle mae hawliau’n caniatáu hynny.

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus o gymharu â Chyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn parhau i fod yn bwysig, ond dylai darlledu gael ei ystyried yn un o nifer o ddulliau sydd ar gael i ni i gyrraedd ein nod. Rydym ni, yn yr un modd â Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus eraill o amgylch y byd, yn gwneud mwy na darparu gwasanaeth darlledu teledu llinol, un cyfeiriad, yn unig mwyach. Wrth i wahanol fathau o gynnwys esblygu, ynghyd â’r ffyrdd y cânt eu cyrchu gan y gynulleidfa, ac wrth i ni ddatblygu ein gwasanaeth yn unol ag anghenion y gynulleidfa, dylai S4C gael ei hailddiffinio’n ddarparwr cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae hyn yn adlewyrchiad mwy cyfoes o’n gwasanaeth a’r ffordd y mae Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus eraill yn y Deyrnas Unedig eisoes yn gweithredu. Bydd yn berthnasol am ddegawdau i ddod a byddai’n caniatáu i S4C gyd-fynd ag arfer gorau Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Fel darparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, byddwn yn datblygu cryfderau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, ac yn cynnal yr elfennau hynny, ar yr un pryd â chydnabod bod darlledu’n un o nifer o ddulliau modern o ddarparu cynnwys.

Mae’n amlwg bod cylch gorchwyl ‘teledu yn unig’, fel y’i diffinnir gan statud, yn hen ffasiwn ac yn cyfyngu ar allu S4C i gynnig cynnwys trwy ddulliau gwahanol ac arloesol i’n cynulleidfa yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Dadleuir hefyd nad yw cylch gorchwyl sy’n diffinio ein cynulleidfa fel un sydd wedi’i chyfyngu i bobl sy’n byw yng Nghymru, yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa heddiw na’r gwerth go iawn a briodolir i’r gwasanaeth.

Mae cylchoedd gorchwyl darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill wedi cael eu diweddaru yn y blynyddoedd diweddar i’w galluogi i fanteisio ar dechnolegau newydd fel y gallant wasanaethu cynulleidfaoedd ar draws pob llwyfan cyfryngau.

Mae S4C o’r farn y dylai ei chylch gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus gael ei ddiweddaru i alluogi S4C i:

  1. ddarparu cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus Cymraeg o ansawdd uchel;
  2. ar y teledu ac ar lwyfannau digidol;
  3. i’r gynulleidfa yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Gallai diwygiad i’r mathau o wasanaethau y gall S4C eu darparu, i’w galluogi i ddarparu cynnwys cyfryngau digidol perthnasol a fyddai’n ategu’r cylch gorchwyl iaith Gymraeg presennol (a ddiffinnir yn Rhan 2 Atodlen 12 Deddf 2003), gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol trwy gyfrwng Gorchymyn Penderfyniad Negyddol.

Gwaith Cynnar o fewn y Weledigaeth

Cymaint yw’n hyder yn y cyfeiriad newydd hwn yr ydym wedi ei ystyried yn ddwys, rydym eisoes, lle y bu’n bosibl, wedi datblygu a threialu elfennau o’r strategaeth i wireddu ein gweledigaeth:

  • Rydym eisoes wedi sefydlu pobl a phrosesau newydd.
  • Rydym yn newid natur rhai o’n perthnasau presennol â chynhyrchwyr, gan annog mwy o gystadleuaeth a dod o hyd i ffyrdd creadigol o gael mathau newydd o gynnwys.
  • Rydym wedi blaenoriaethu, o fewn adnoddau cyfyngedig, er mwyn sicrhau bod gan S4C bresenoldeb ar rai llwyfannau allweddol, yn hytrach na chanolbwyntio ar gynnwys yn unig.
  • Rydym wedi neilltuo adnoddau presennol i gynyddu ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Rydym yn ymchwilio i lu o gyfleoedd buddsoddi masnachol, yn bennaf trwy ymestyn ein brandiau ein hunain.

Byddwn bob amser yn gweithio’n galed i archwilio datblygiadau newydd a chyflwyno unrhyw rai y credwn eu bod yn allweddol i’r gwasanaeth, ond mae’n hanfodol bellach bod ein cylch gorchwyl yn cael ei ddiwygio er mwyn i ni allu cyflawni’r newid sylweddol angenrheidiol o fod yn sianel linol unigol gyda chynnig digidol cyfyngedig i ddarparwr cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus cyflawn a fydd yn gallu bodloni anghenion ein cynulleidfaoedd yn awr ac yn y dyfodol.

FFYNONELLAU
SEFYDLOG,
DIGONOL A
PHRIODOL O GYLLID

Cyllid Sefydlog a Digonol

Mae cyllid sefydlog a digonol yn allweddol bwysig i wireddu ein gweledigaeth a sicrhau dyfodol bywiog, perthnasol a llwyddiannus i S4C ar gyfer cenedlaethau i ddod.

O dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd i ystyried faint o gyllid y mae ei angen ar S4C i’n galluogi ni i ddarparu ein gwasanaethau darlledu cyhoeddus, ac yna gwneud trefniadau i sicrhau bod y swm perthnasol hwn o arian yn cael ei ddarparu i S4C bob blwyddyn – naill ai o arian y Llywodraeth, neu drwy wneud trefniadau gyda chyrff eraill i ddarparu elfennau o’r cyllid.

Ar hyn o bryd, mae gennym incwm cytunedig o ffi’r drwydded deledu o £74.5 miliwn hyd at fis Ebrill 2022. Y cymorth grant gan yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2016/17 oedd £6.762 miliwn. Mae hyn, ynghyd â throsglwyddiadau o’n his-gwmnïau masnachol, yn dod â’n hincwm cyfan ar gyfer 2016/17 i ychydig dros £83 miliwn.

Er mwyn darparu a chynnal y lefelau newydd o wasanaeth a ddisgrifiwyd gennym, bydd angen buddsoddiad ychwanegol bob blwyddyn ar ben ein cyllideb bresennol. Bydd cyllid ychwanegol o’r fath, a fuddsoddir yn ein busnes ar yr adeg allweddol hon, yn arwain at enillion sylweddol, gan gynnwys:

  • mwy o ymgysylltiad â’r Gymraeg, a fydd yn cyfrannu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg,
  • gwasanaeth cyfryngau mwy amrywiol a llwyddiannus sy’n ymgysylltu mwy â chynulleidfaoedd ac yn cael ei werthfawrogi mwy,
  • sector cynhyrchu sydd hyd yn oed yn fwy cystadleuol, creadigol a medrus yn ddigidol,
  • cyfraniad uwch at economïau Cymru a Phrydain.

Beth yw Cyllid Digonol?

(a) Darparu Cynnwys Ar Bob Llwyfan

Ein nod yw cyflawni elfen llwyfannau digidol “Darparu Cynnwys ar bob Llwyfan” dros gyfnod o bum mlynedd. I wneud hyn heb effeithio ar y buddsoddiad presennol mewn cynnwys, byddai angen:

  • buddsoddiad blynyddol ychwanegol o £6 miliwn y flwyddyn. Bydd hyn yn galluogi S4C i ddarparu ein gwasanaeth ar deledu darlledu yn ogystal â llwyfannau digidol, buddsoddi mewn cynnwys newydd ar gyfer cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol ac ychwanegu cynnwys archif at y cynnig ar-lein.

(b) Cost Creu’r Cynnwys Cywir

Ni all fod ateb cwbl bendant fyth i’r cwestiwn “faint o gyllid sydd ei angen ar S4C i greu’r cynnwys cywir?” Gwaith y darlledwr yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl y gellir ei gyflwyno gyda’r arian sydd ar gael.

Fodd bynnag, nid yw cyllideb cynnwys bresennol S4C yn ddigonol i wireddu’r weledigaeth a amlinellir ym Mhennod 2 y ddogfen hon, ac felly mae angen cyllid ychwanegol os ydym am ei chyflawni.

Mae’r adolygiad annibynnol yn cynnig cyfle i S4C gyflwyno’r ffactorau y tybiwn eu bod yn briodol ac yn berthnasol i’r adolygwr eu hystyried wrth archwilio beth yw cyllid digonol.

Elfen allweddol i’r adolygiad ei hystyried fydd y meincnodau y mae darlledwyr eraill yn eu cynnig, ac yn enwedig sut mae’r rhain yn newid dros amser. Mae’r rhain yn rhoi syniad a yw ansawdd a chwmpas yr hyn sydd ar gael yn debygol o fodloni disgwyliadau.

Fel rydym wedi dadlau, mae ehangder a dyfnder y dewis sydd ar gael yn Saesneg erbyn hyn, o ran rhaglenni, llwyfannau a sianeli, yn syfrdanol. Yn Saesneg, mae’n bosib i wasanaethau masnachol fodloni disgwyliadau, os yw darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn oedi. Yn Gymraeg, nid yw hynny’n wir. S4C yw’r unig sianel deledu iaith Gymraeg o hyd.

Mae ailddarllediadau bellach yn cynrychioli 58% o’r rhaglenni a ddarlledir ar S4C – cynnydd arwyddocaol ers 2010 (54%). Y ffigurau cyfatebol yw BBC One - 23% ac ITV 1 - 28%, yn ôl adroddiad Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus 2016 Ofcom. Anogwn yr adolygwr i ystyried yr ystadegau hyn a ph’un a ydynt yn dderbyniol i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.

Ar yr un pryd, tra bod darlledwyr eraill wedi gallu cynyddu eu buddsoddiad fesul awr, yn enwedig mewn cynyrchiadau mawr yn y meysydd adloniant, drama a chwaraeon , i ddarparu rhaglenni ‘uchafbwynt’ sy’n denu cynulleidfa fawr ac yn creu testunau siarad diwylliannol, mae S4C mewn sefyllfa lle mae’n lleihau ei chost fesul awr ar draws pob genre.

Yn ychwanegol i hyn, mae’n rhaid i gyllideb cynnwys S4C gael ei gwarchod yn y dyfodol yn erbyn pwysau chwyddiant fel yr amlinellwyd ym Mhennod 2. Fe ddylai hyn, yn ein tyb ni, fod yn ystyriaeth allweddol i’r adolygiad.

Byddai cynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer cynnwys newydd yn darparu gwasanaeth mwy cyfoethog, un a fyddai mewn sefyllfa well i allu bodloni disgwyliadau amrywiol siaradwyr Cymraeg heddiw. Rydym yn anelu at gyflawni hynny.

(c) Proses Dryloyw

Mae’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ddarparu digon o gyllid i S4C, ond nid yw’n cyfeirio at unrhyw broses y dylid ei dilyn wrth benderfynu ar y swm sy’n ofynnol. Mae’r gwendid hwn wedi golygu bod S4C yn agored i doriadau cyfnodol ac wedi caniatáu i ofnau gael eu mynegi ynglŷn â pharhad ymrwymiad y Llywodraeth i’r gwasanaeth.

Er mwyn tawelu ofnau o’r fath, a darparu sefydlogrwydd am gyfnod rhesymol, dylai fod yn flaenoriaeth i’r adolygiad argymell proses wrthrychol a thryloyw ar gyfer penderfynu ar yr hyn sy’n gyfystyr â chyllid digonol i S4C, yn seiliedig ar gylch gorchwyl newydd.

Mae digonolrwydd a sefydlogrwydd cyllid a ffynonellau cymorth yn ystyriaethau cyffredin mewn perthynas â darpariaeth Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ar draws y byd. Yn ôl yr Undeb Darlledu Ewropeaidd, er enghraifft, yr egwyddorion allweddol yw fod cyllid yn:

  • Sefydlog a Digonol. Ffynhonnell sefydlog a rhagweladwy o gyllid sy’n galluogi ymdrin â’r cylch gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus yn llawn yn oes y cyfryngau digidol.
  • Yn annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol. Nid yw Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn dibynnu ar ffafr wleidyddol, gan felly gynyddu ffydd y cyhoedd ynddynt a’u rôl fel gwasanaeth gwirioneddol anhepgor.
  • Teg a Chyfiawnadwy. Yn deg ac yn gallu cael ei gyfiawnhau’n wrthrychol i’r cyhoedd a’r farchnad.
  • Tryloyw ac Atebol. Dull cyllido agored ac eglur sy’n dal Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn atebol i’w cynulleidfa. 27

Fel un o gonglfeini allweddol darpariaeth cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, mae S4C yn credu y dylai sefydlogrwydd cyllid fod yn gysylltiedig â phroses dryloyw sy’n gosod lefel y cyllid am gyfnod penodol a sylweddol, megis pump neu ddeng mlynedd. Dyma’r hyn sy’n digwydd yn draddodiadol o ran y BBC, ac oherwydd mai S4C yw’r unig ddarparwr cynnwys teledu yn y Gymraeg, dylai S4C gael lefelau tebyg o sicrwydd a sefydlogrwydd cyllid digonol.

Cydnabyddir yr egwyddor hon yn y Cytundeb Fframwaith sy’n sail i Siarter newydd y BBC ac sy’n mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol, y BBC ac S4C, yn dilyn yr Adolygiad o S4C, yn cytuno ar broses ar gyfer diffinio cyllid S4C o ffi’r drwydded am y cyfnod hyd at 2027/28.

Dylai’r broses ar gyfer diffinio anghenion cyllid cyffredinol S4C gynnwys ystyriaeth o’r ffactorau canlynol:

  1. Disgwyliadau cynulleidfaoedd
  2. I ba raddau y mae cynnwys Cymraeg ar gael ar lwyfannau cyfryngau
  3. Costau cymharol creu cynnwys a chaffael hawliau
  4. Effeithlonrwydd S4C ei hun
  5. Egwyddor o berthynas gyfatebol gyda ffi’r drwydded
  6. Chwyddiant a phwysau eraill ar gostau

Dylai’r egwyddorion hyn gael eu hystyried a’u trafod pryd bynnag y bydd angen adolygu cyllid S4C, gan gynnwys ar ddiwedd yr adolygiad presennol.

Ffynonellau Priodol o Gymorth

Dylai newid y cylch gorchwyl i fod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ehangach (gan ymgorffori ein statws Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus presennol) annog y rhai hynny sy’n ymwneud â’r adolygiad i edrych yn ehangach ar ffynonellau posibl ar gyfer y buddsoddiad ychwanegol hwn. Rydym yn awyddus i gael y cyfle i godi mwy o arian o’n gweithgareddau eu hunain, ond yn sylweddoli mai arian cyhoeddus fydd asgwrn cefn ein gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyn yn cyd-fynd â’r egwyddorion cyffredin ar gyfer darpariaeth cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a amlinellir uchod, a thraddodiad hirsefydlog y Deyrnas Unedig o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cyfraniad at gyllid S4C o ffi’r drwydded yn gweithio’n dda – gan gydweithio â’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC i sefydlu prosesau cadarn ac atebolrwydd priodol. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod S4C yn parhau i gael mynediad at y ffynhonnell bwysig hon o gyllid yn effeithiol, ar yr un pryd â chynnal ein hannibyniaeth. Wrth i ffi’r drwydded gael ei sianelu trwy’r BBC, mae cynnal cysylltiad cyllido â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, trwy’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, wedi bod yn allweddol i annibyniaeth barhaus S4C a’n gallu i gyflawni ein cylch gorchwyl iaith Gymraeg.

Mae S4C yn parhau i gredu’n gryf bod lluosogrwydd cyllid yn parhau i fod yn fuddiol ac yn egwyddor i’w diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i unrhyw ddewisiadau cyllid yn y dyfodol hefyd gynnal statws S4C fel darparwr cynnwys annibynnol a diduedd yr ymddiriedir ynddo.