Y telynor o Benarth, Huw Boucher sy'n perfformio medli Nadoligaidd hyfryd o 'Oh Christmas Tree' a 'Jingle Bells' gyda band y Noson Lawen.
Lili, Nansi, Amelia, Leisa ac Iwan sy'n cloi 'Noson Lawen Nadolig yr Ifanc' drwy gyd-ganu 'Hei bawb Nadolig Llawen'.
Y Minis sy'n ymddangos ar 'Noson Lawen Nadolig yr Ifanc' gyda pherfformiad egnïol o 'Nadolig dyma ni'.
Iestyn Gwyn Jones sy'n perfformio ei garol, 'Eira man' ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth 'Carolau Côr-ona' yn 2020.
Geth Tomos sy'n perfformio 'Hei Sion Corn, paid anghofio amdana i' gyda Siwan, Osian, Gwenan a Dion o Ganolfan Addysg y Bont a Ceri, Llyr ac Elain o Lleisiau Llawen.
Lloyd Macey sy'n perfformio 'Mewn un nos' gyda chymorth y Minis mewn pennod nadoligaidd o'r Noson Lawen.
Cantores a chyfansoddwraig ifanc o Gaernarfon, Alis Glyn sy'n perfformio un o'i chaneuon gwreiddiol o'r enw 'Sêr' ar lwyfan 'Noson Lawen Nadolig yr Ifanc'.
Iestyn Gwyn Jones sy'n diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda chân gomedi o'r enw 'Ai hyn yw'r Nadolig?'
Tomi Llywelyn, Twm Tudor a Gwern Morus Williams - triawd o Aelwyd yr Ynys sy'n perfformio 'Dilyn y sêr' ar lwyfan 'Noson Lawen Nadolig yr Ifanc'.
Yr actor a'r canwr, Aled Pedrick sy'n canu un o ganeuon hyfrytaf Huw Chiswell, 'Nos Sul a Baglan Bay' mewn rhaglen arbennig i nodi pen-blwydd y canwr a'r cyfansoddwr yn 60 oed.
Cyflwynydd 'Noson Lawen Huw Chiswell', Rhys ap William sy'n perfformio 'Gadael Abertawe' gyda chymorth Rhys Taylor ar y sacsoffon.
Ffion Emyr sy'n perfformio 'Parti'r Ysbrydion' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu pen-blwydd y cerddor Huw Chiswell yn 60 oed.
Fflur Dafydd sy'n perfformio 'Frank a Moira' gyda chymorth Rhys James ar y gitâr mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd Huw Chiswell yn 60 oed.
Perfformiad o 'Rhywun yn gadael' gan Huw Chiswell mewn noson arbennig i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Y brawd a'r ddwy chwaer - Gwilym, Elan a Marged sy'n canu'r glasur gan Huw Chiswell, 'Y Cwm' mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd y cerddor.
Criw bach Côr Ieuenctid Môn sy'n perfformio trefniant o un o ganeuon mwyaf eiconig Huw Chiswell, 'Dwylo dros y môr'.
Pwdin Reis sy'n perfformio un o ganeuon Huw Chiswell, 'Etifeddiaeth ar werth' mewn arddull 'rockabilly' fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y cerddor ar Noson Lawen.
Fflur Dafydd sy'n ymuno gyda Huw Chiswell i ganu 'Chwilio dy debyg' mewn noson arbennig i ddathlu ei ben-blwydd.
Aled Pedrick a Non Parry sy'n perfformio 'Rhywbeth o'i le' i gloi Noson Lawen arbennig i ddathlu pen-blwydd Huw Chiswell, gyda'r dyn ei hun ar y piano.
Oli Nez, y sacsoffonydd proffesiynol sy'n teithio'r byd sy'n perfformio 'Calon lân' ar lwyfan y Noson Lawen.
Criw hwyliog Aelwyd Hafodwenog sy'n perfformio trefniant o 'Hafan Gobaith' gan Delyth Rees ac Eleri Richards.
Llinos Emanuel a'i chyd-gerddor, Twm Dylan sy'n perfformio cân wreiddiol o'r enw 'Unlle'.
Enillydd gwobr 'Record Fer Orau' Gwobrau'r Selar 2021, Lisa Pedrick sy'n perfformio 'Dim ond dieithryn'.
Tudur Phillips, y gŵr sydd â dwy record byd sy'n clocsio ar lwyfan y Noson Lawen.
Tudur Dylan sy'n adrodd cerdd ysgafn am y gwahaniaeth rhwng tafodieithoedd y Gogledd a'r De.
Gareth Elis sy'n ymuno gyda Lisa Pedrick i ganu un o'i chaneuon gwreiddiol, 'Ti yw fy seren'.
Y fam a merch, Gwenda a Geinor sy'n perfformio medli o ddwy o'u caneuon buddugol o gystadleuaeth Cân i Gymru - 'Cân i'r Ynys Werdd' a 'Dagrau Ddoe'.
Mared Williams sy'n perfformio 'Dal ar y teimlad' - cân oddi ar ei halbwm gyntaf, 'Y Drefn'.
Y canwr, cyfansoddwr a'r cyflwynydd radio, Alistair James sy'n perfformio cân am un o ardaloedd arbennig Sir Conwy iddo sef 'Morfa Madryn.'
Ennillydd Cân i Gymru 2021, Morgan Elwy sy'n perfformio'i gân fuddigol, 'Bach o hwne' ar lwyfan y Noson Lawen.