Steffan Rees yn perfformio 'Elvis Rock' ar Noson Lawen - cân sydd wedi ei hysbrydoli gan y graig enwog ar y ffordd dros fynydd Pumlumon ag arni'r gair Elvis ers y 60au.
Ensemble o fyfyrwyr o Aelwyd Pantycelyn y perfformio trefniant o'r gân 'Garth Celyn' gan Gwilym Bowen Rhys.
Whisperer yn diddannu cynulleidfa'r Noson Lawen gydag un o'i ganeuon mwyaf poblogaidd sy'n dipyn o gwlt erbyn hyn - 'Ni'n Beilo Nawr'.
Pedair (Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard, Sian James a Gwyneth Glyn) yn perfformio'u trefniant celfydd o 'Gân y Crwtyn Gwartheg'.
Sam Ebenezer yn rhoi blas cyfoes i'r glasur 'Nwy Yn y Nen' ar Noson Lawen.
Datganiad angerddol gan Robert Lewis o'r unawd wladgarol 'Galwad Y Tywysog' ar Noson Lawen.
Cyflwyniad celfydd Rhodri Prys Jones ar Noson Lawen o'r unawd enwog 'Mattinata' gan Leoncavallo.
Cyfle i gynulleidfa Noson Lawen gael clywed Lisa Angharad yn perfformio cân newydd yn dwyn y teitl 'Aros'.
Y ddau denor o Faldwyn, Rhodri Prys Jones a Robert Lewis ynghyd â'r telynor rhyngwladol Ieuan Jones yn perfformio - 'Bara Angylion Duw' (Cesar Frank) ar Noson Lawen.
Dychwela'r telynor rhyngwladol Ieuan Jones i lwyfan Noson Lawen i berfformio 'Salut D'amour' (Elgar).
Cadi Glwys yn dathlu'r traddodiad Cymreig – y delyn deires a chlocsio - ar lwyfan Noson Lawen Maldwyn.
Rhys Gwynfor a'r Band yn perfformio 'Esgyrn Eira' ar lwyfan Noson Lawen.
Rhys Gwynfor a'r Band yn perfformio 'Bydd Wych' ar lwyfan Noson Lawen.
Meibion Jacob, y triawd o Benllyn, yn cyflwyno'r gân 'Angor' gan Tudur Huws Jones i gynulleidfa'r Noson Lawen.
Perfformiad cywrain y tenor Huw Ynyr o'r berl o unawd 'Mae Hiraeth yn y Môr' (Dilys Elwyn Edwards / R Williams Parry).
Y Cledrau, band o Benllyn, yn agor Noson Lawen gyda pherfformiad o'u cân 'Cliria Dy Bethau'.
Glain Rhys yn perfformio 'Y Ferch yn Ninas Dinlle', un o'r caneuon oddi ar ei halbwm yn dwyn y teitl Atgof Prin.
Y Cledrau yn perfformio un o'u caneuon diweddaraf ar Noson Lawen - 'Hei Be Sy'.
Sain jas sipsi ar Noson Lawen ym mherfformiad bywiog Tacla o'r gân 'Bachgen Drwg'.
Y ddau ffrind o Lanuwchllyn – Meilir Rhys Williams a Steffan Prys yn perfformio'r ddeuawd 'Dwyt Ti Ddim ar Ben dy Hun' allan o'r sioe Hwn yw fy Mrawd gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood.
Harmoni di-gyfeiliant gyda Lleisiau'r Dyffryn o Ddyfryn Banw a'u perfformiad o drefniant Sioned Webb o'r gân draddodiadol 'Modryb Neli a'i chap Melyn'.
Ymuna Geraint Lovgreen, Sian James a Lleisiau'r Dyffryn i berfformio'r glasur o gân 'Nid Llwynog Oedd yr Haul' i gloi Noson Lawen Dyffryn Banw.
Geraint Lovgreen ynghyd â Ffion Emyr a Gwion Morris Jones (lleisiau cefndir) a Rhys Taylor (sacsoffon) yn codi gwên ar Noson Lawen gyda'r gân 'Mae'r Haul Wedi Dod'.
Perfformiad anhygoel ar Noson Lawen gan ddwy offerynwraig sy'n wreiddiol o Ddyffryn Banw – Alis Huws (telyn) a Carys Gittins (ffliwt) o 'Tico Tico' (Zequinha de Abreu).
Dychwela Lynwen Haf Roberts i lwyfan Noson Lawen, gyda Ffion Emyr a Gwion Morris Jones (lleisiau cefndir), i ganu 'Llwybr Lawr i'r Dyffryn' gan Elin Fflur.
Alun Jones, neu Alun Cefne – gyda chyfeiliant telyn gan Alis Huws - yn perfformio casgliad o hen benillion doniol yr arferid eu canu yn ardal Dyffryn Banw.
Llais hudolus Sian James, gyda chymorth Ffion Emyr, yn canu 'Bachgen Ifanc Ydwyf' ar Noson Lawen gydag artistiaid o Ddyffryn Banw.
Seithawd y Shed yn mawrygu eu hardal enedigol gyda pherfformiad o 'Hen Wlad Llŷn' ar lwyfan y Noson Lawen
Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio 'Os Ti'n Dod Nôl' ar Noson Lawen gyda chyd artistiaid o Llŷn.
Patrobas yn agor Noson Lawen Llŷn 2020 gyda pherfformiad bywiog o'u trefniant o 'Mwncwns Abertawe'.