Ensemble CantiLena sy'n llenwi llwyfan y Noson Lawen tra'n adrodd 'Hanes Eldon Terrace'.
Pedair ffrind o Aelwyd Llangwm - Gwenlli, Siwan, Elin a Lleucu sy'n perfformio trefniant o un o ganeuon poblogaidd Yws Gwynedd, 'Drwy dy lygid di'.
Mared Williams, Morgan Elwy a Modlen Alun sy'n cloi Noson Lawen Sir Conwy gyda threfniant o un o ganeuon poblogaidd y cyfansoddwr Rhydian Meilir, 'Byw i'r dydd'.
Y ddau frawd, Siôn a Liam o Fetws-y-Coed sy'n perfformio 'Cadw Ffydd' gyda chymorth Dylan Cernyw ar y delyn.
Perfformiad hyfryd o 'Deuawd y Blodau' gan y ddwy soprano o Sir Conwy, Erin Rossington a Charlotte Forfar.
Y gantores a'r gyfansoddwraig o Lŷn, Emma Marie sy'n canu un o'i chaneuon gwreiddiol, 'Deryn glân i ganu' ar lwyfan y Noson Lawen.
Gwyneth Glyn sy'n ymuno gyda Cowbois Rhos Botwnnog i berfformio eu trefniant nhw o'r alaw werin 'Paid a deud'.
Cowbois Rhos Botwnnog sy'n canu eu cân newydd o'r enw 'Adenydd'.
Y ddeuawd fytholwyrdd, John ac Alun sy'n cloi 'Noson Lawen Canu Gwlad' gydag un o'r ffefrynnau, 'Dyddiau Difyr'.
Brenhines y Canu Gwlad yng Nghymru, Doreen Lewis sy'n canu'r glasur, 'Rhowch i mi Ganu Gwlad'.
Jonathan Davies sy'n perfformio cân newydd sbon, 'Wrth fy modd' mewn pennod arbennig o 'Noson Lawen Canu Gwlad'.
Gwyneth Glyn sy'n perfformio 'Angeline' gyda chymorth Gwilym Bowen Rhys ar y banjo ac Euron Jones ar y pedal steel.
Perfformiad hwyliog o 'Hei Anita' gan un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd byd y Canu Gwlad yng Nghymru, John ac Alun.
Y Welsh Whisperer sy'n teimlo'r 'A470 Blues' wrth berfformio ar lwyfan y Noson Lawen.
Geraint Lovgreen sy'n canu ei gân boblogaidd, 'Canu Gwlad' gyda'i dafod yn dynn yn ei foch!
Lowri Evans a Lee Mason sy'n perfformio cân gafodd ei chyfansoddi i eiriau Hedd Ladd Lewis am ddirywiad pentref bychan Trefdraeth yn Sir Benfro.
Y gantores a'r gyfansoddwraig o Sir Benfro, Rosey Cale sy'n perfformio un o'i chaneuon gwreiddiol sef 'Ceidwad' ar lwyfan y Noson Lawen.
Un o sêr y grŵp Facebook 'Côr-ona', Meilyr Hedd Tomos sy'n cyfeilio ar y piano i Trystan Llŷr mewn perfformiad arbennig o'r emyn 'Gwahoddiad'.
Dafydd Pantrod a'i fand sy'n perfformio cân wreiddiol o'r enw 'Bob tro' yn eu hymddangosiad cyntaf ar lwyfan y Noson Lawen.
Angharad James sy'n ymuno gyda Nerys Richards, un o aelodau band y Noson Lawen i berfformio trefniant hyfryd o 'Adre' gan Caryl Parry Jones ar y cello.
Y ddeuawd boblogaidd o Sir Benfro, Lowri Evans a Lee Mason sy'n perfformio 'Pwy yw yr un' ar lwyfan y Noson Lawen.
Dau o leisiau arbennig Clunderwen, Trystan Llŷr a Jessica Robinson sy'n perfformio 'Libiamo ne' lieti calici' o'r opera 'La Traviata' gan Giuseppe Verdi.
Trefniant y grŵp Bacsia o gân werin draddodiadol â'i gwreiddiau yn Ynys Môn sef 'Titrwm Tatrwm'.
Cantores ifanc o Rostrehwfa, Ynys Môn sy'n canu un o glasuron Caryl Parry Jones, 'Y Nos yng Nghaer Arianrhod'.
Meilir Jones a Rhys Meilyr sy'n perfformio un o'r deuawdau mwyaf poblogaidd i denor a bariton yn y Gymraeg, 'Y Ddau Wladgarwr'.
Gŵr a gwraig o Fôn sy'n perfformio fersiwn Gymraeg o'r alaw draddodiadol Almaeneg 'Muss i Denn'.
Y grŵp poblogaidd o Fôn sy'n perfformio un o'u caneuon oddi ar eu halbwm enillodd y wobr am 'Record Hir Orau' yng Ngwobrau'r Selar yn 2020.
Y cerddor Daf Jones o Langefni sy'n perfformio cân o'r enw 'Sbardun' oddi ar ei albwm ddiweddaraf ar lwyfan y Noson Lawen.
Trefniant arbennig o un o ganeuon serch mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr Tudur Huws Jones.
Addasiad hwyliog Llio Evans o 'Cân y Bugeiliaid' gan Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan.