Datganiad heintus Gwenan Gibbard, gyda Oliver Wilson Dickson ar y ffidil, o'r gân draddodiadol 'Y Llong Na Ddychwelodd Yn Ôl'.
John ac Alun - y ddeuawd fytholwyrdd o Dudweiliog yn canu clodydd eu bro gyda pherfformiad o'u cân boblogaidd 'Penrhyn Llŷn' ar Noson Lawen.
Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio un o'r ffefrynnau ar Noson Lawen Llŷn - 'Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn'.
Perfformiad Gronw Ifan ar Noson Lawen o 'Hwn Yw Fy Mrawd' - un o'r caneuon pwerus o waith Robat Arwyn a Mererid Hopwood allan o'r sioe o deyrnged i Paul Robeson a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018.
Malen Meredydd y perfformio cân a gyfansoddodd i'w Nain yn ystod cyfnod clo 2020 - 'Daw Eto Haul ar Fryn'.
Sorela'n perfformio cân newydd i'r achlysur yn dwyn y teitl 'Dan y Sêr' gan Lisa Angharad ar Noson Lawen.
Aled Wyn Davies gyda pherfformiad o'r gân wladgarol 'Gwlad y Delyn' ar Noson Lawen.
Ffrindiau oes a pherfformwyr profiadol – Aled Wyn Davies ac Aled Griffiths yn tynnu coes y gynulleidfa ar Noson Lawen.
Aeron Pughe yn diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'i gân ddoniol - 'Y Ferch o CAT'.
Linda Griffiths – gyda lleisiau cefndir Mari, Gwenno a Lisa – yn canu'r hwinagerdd sensitif 'Gwbod bod na Fory' ar Noson Lawen.
Rhydian Meilir, ynghyd ag ensemble o gyfeillion o Fro Ddyfi, yn canu 'Brenhines Aberdaron' - sef y gân a gipiodd iddo Dlws Sbardun yn 2019.
Datganiad heintus gan Cerys Hafana o ddwy gân draddodiadol - 'Bwthyn fy Nain / Ty Bach Twt'.
Linda Griffiths, ynghyd â Mari, Gwenno a Lisa, yn canu 'Fy Nghân I Ti' - cân o ymroddiad a chysur diderfyn.
Digon o hwyl gydag aelodau Ensemble John's Boys yn eu perfformiad bywiog o 'Oes Gafr Eto'.
Perfformiad meistrolgar Angharad Lyddon o 'Mon coeur s'ouvre a ta voix' gan Camille Sain-Saens ar Noson Lawen.
Ymuna Angharad Lyddon ac Ensemble John's Boys i gloi Noson Lawen gyda pherfformiad o drefniant godidog Aled Phillips o 'Dros Gymru'n Gwlad'.
Twm Tegid yn canu 'Brenin y Sêr' yn ei ymddangosiad cyntaf ar Noson Lawen.
Y chwiorydd Beca Marged Hogg ac Awen Grug Hogg yn serennu ar Noson Lawen gydag anwyldeb eu perfformiad o 'Weli di'r Haul'.
Perfformiad hyfryd Beca Marged Hogg ar Noson Lawen o'r gân 'Dy enw di' o waith Ruth Lloyd Owen a Myrddin ap Dafydd.
Daniel Lloyd yn canu ei gân 'Gadael Rhos' mewn Noson Lawen gydag artistiaid o ardal Wrecsam.
Gwibdaith Hen Fran yn llawn afiaith ar lwyfan Noson Lawen gyda'u cân o ysbyrydoliaeth - 'Byd yn dy law'.
Gai Toms yn perfformio 'Tafarn yn Nolrhedyn' ar Noson Lawen - cân am ardal hyfryd Dolrhedyn ger Cwmorthin ym mynyddoedd Meirionnydd.
Gwibdaith Hen Fran yn perfformio 'Wastio Awr' ar Noson Lawen – y geiriau bachog yn dangos mor anodd yw 'dal' amser.
Sion Goronwy yn perfformio'r unawd Gymraeg wladgarol 'Y Cymro' gydag arddeliad ar lwyfan Noson Lawen.
Mair Tomos Ifans ar lwyfan Noson Lawen Meirionnydd yn cyflwyno baled o gerydd am y defnydd cyfoes o'r enw 'South Gwynedd' - 'Yr Ellyll Erchyll' ar alaw Hen Garol Perthyfelin.
Sian Meinir yn perfformio trefniant hyfryd Peter Williams o 'Hiraeth am Feirion' ar Noson Lawen - cân yn adlewyrchu'r dynfa'n ôl i ardal ei mebyd.
Datganiad Sian Meinir a Sion Goronwy o gampwaith Robat Arwyn - 'Benedictus'.
Mared Jeffery, y seren ifanc o'r Blaenau, yn swyno cynulleidfa'r Noson Lawen gyda 'Tri Mis a Diwrnod'.
Gai Toms yn perfformio cân o obaith a gyfansoddodd yn ystod cyfnod clo 2020 - 'Pobl Da y Tir'.
Dychwela Jade Davies i'w gwreiddiau yn Nyffryn Clwyd i berfformio 'Rwy'n Dy Weld yn Sefyll' ar Noson Lawen.