Dylan a Neil yn canu Tafarn y Gardd Fôn - cân am dafarn wedi ei lleoli yn un o'r mannau hyfrytaf ar lannau'r Fenai.
Datganiad gwefreiddiol o Iesu Yw (Gareth Glyn/Cefin Roberts) gan Trystân Llyr Griffiths ac CF1 mewn Noson Lawen nadoligaidd.
Digon o hwyl yr Ŵyl wrth i'r nodau befrio ym mherfformiad DB Big Band a Clare Hingott o Cerdded Gyda'n Gilydd Fel Erioed.
Mei Gwynedd yn perfformio un o'i ganeuon, Ffordd Y Mynydd mewn Noson Lawen wedi ei recordio yng Ngarth Olwg ger Pontypridd.
Glain Rhys yn edrych ymlaen at dathliadau'r Ŵyl mewn perfformiad o'i chân Adre Dros y 'Dolig ar Noson Lawen.
Aelodau Côr Aelwyd Bro Taf yn dathlu'r Nadolig gyda pherfformiad o Mae'r Sêr Yn Canu (Robat Arwyn) ar Noson Lawen.
Ffion Emyr, gyda chymorth James Mainwaring ar y sacsaffon, yn perfformio O Ddwyfol Nos mewn Noson Lawen nadoligaidd.
Mei Gwynedd a Chôr Aelwyd Bro Taf yn llawn hwyl yn dathlu'r Nadolig ar Noson Lawen mewn perfformiad o Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.
Hywel Pitts, y digrifwr cerddorol, â rhestr hir o'r hyn yr hoffai eu cael iddo'i hun ac i Gymru gan Siôn Corn.
Delwyn Sion yn perfformio un o glasuron Dafydd Iwan PAM FOD EIRA'N WYN ar Noson Lawen.
Gwyneth Glyn a Twm Morys â pherfformiad sensitif o CÂN Y GLOWR gan Dafydd Iwan ar Noson Lawen - cân sy'n mawrygu'r glowyr a'r gymdeithas lofaol yn Ne Cymru.
Ymuna Côr Seingar a'u harweinyddes Nicki Roderick â chriw'r Noson Lawen i ddiddanu'r gynulleidfa yn Llanbed gyda pherfformiad o YR HEN HEN HIRAETH gan Dafydd Iwan.
Y grŵp Hen Fegin - Roy, Jac, Bryn a Rhys, yn perfformio Ar Ben Waun Tredegar mewn Noson Lawen yn Llanfair Caereinion.
Linda Griffiths yn canu Siwrnai Ddi-ben-draw - cân a gyfansoddwyd ar ôl colli ei Mam.
Sorela - y dair chwaer Lisa, Gwenno a Mari, yn perfformio Am Ba Hyd mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn Llanfaircaereinion.
Aneira Evans, soprano o Aberhosan yn canu O! Grwydryn Ffôl allan o operetta Pirates of Penzance ar Noson Lawen.
Y grŵp Plethyn yn perfformio Cân Melangell ar Noson Lawen - cân sy'n seiliedig ar chwedl Santes Melangell, tywysoges o'r Iwerddon a ffôdd i Gymru a dod i fyw i Bennant Melangell. Mae'r hanes yn deud bod Brochwel, Tywysog Powys wrthi'n hela ysgyfarnog a bod honno wedi cuddio tu ôl i ffedog Melangell ac o ganlyniad rhoddodd y Tywysog y gorau i hela yn y cwm.
Hen Fegin, Linda Griffiths a Sorela'n perfformio trefniant Lisa Angharad o Santiana mewn Noson Lawen gyda theulu Penbryn, Meifod.
Linda Griffiths a Sorela yn perfformio'r gân Fel hyn mae'i fod ar Noson Lawen - yr alaw gan Linda a'r geiriau o waith Myrddin ap Dafydd.
Côr Meibion Penybontfawr yn perfformio Cerddwn Ymlaen gan Dafydd Iwan dan arweiniad Rhonwen Broom gyda Linda Thomas yn cyfeilio.
Llond llwyfan o artistiaid fu'n rhan o Noson Lawen Teulu Penbryn Meifod yn ymuno i ganu'r gân sy'n cloi'r noson - Seidr Ddoe - y gerddoriaeth gan Linda Griffiths a'r geiriau gan Myrddin ap Dafydd.
Calfari, y grŵp o Fôn, ar lwyfan Noson Lawen yn canu un o'u caneuon poblogaidd - Rhydd.
Perfformiad Côr Aelwyd Yr Ynys gyda'u harweinyddes Nia Wyn Efans o gân un o gyfansoddwr gorau y fam ynys - Ems - Ceidwad Y Goleudy.
Camwn i fyd yr opera gyda pherfformiad Llio Evans o'r aria Je Veux Vivre gan Gounod mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Theatr Bryn Terfel yn Pontio, Bangor.
Jâms Coleman sy'n wreiddiol o Landegfan, Môn yn perfformio Boogie Woogie Etude ar Noson Lawen.
Meinir Gwilym ar lwyfan Noson Lawen yn canu un o'i chaneuon poblogaidd -Gwallgo.
Dychwela Llio Evans a Jâms Coleman i Fôn i'w sir genedigol i berfformio Popeth Wyt Ti mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r ynys.
Ymuna Côr Aelwyd Yr Ynys gyda Meinir Gwilym i ganu un o'i chaneuon poblogaidd - Gormod.
Cordia yn perfformio Dim Ond Un, cân wreiddiol o waith Rhys Jones a Ffion Elin Davies, ar Noson Lawen.
Ymuna Côr Dre ac offerynwyr o Seindorf Arian Deiniolen gydag Elfed Morgan Morris i berfformio Rho Dy Law i gloi Noson Lawen a recordiwyd yn Pontio.